Delwedd o allwedd cyfrifiadur diwedd

Dylai diffiniad diwedd yr astudiaeth gael ei nodi yn eich protocol astudio. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyma ddyddiad ymweliad olaf y cyfranogwr/gwirfoddolwr olaf neu gwblhau unrhyw fonitro a chasglu data dilynol. Ni chaiff cwblhau dadansoddi data neu gyhoeddi canlyniadau eu hystyried ar ddiwedd astudiaeth.

Ar ddiwedd yr astudiaeth ymchwil, fel arfer bydd angen i chi hysbysu'r cyrff adolygu a roddodd gymeradwyaeth wreiddiol amdani. Bydd y ffordd rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar y corff adolygu. Mae'r ddolen isod yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am hyn: https://www.hra.nhs.uk/approvals-amendments/managing-your-approval/ending-your-project/ 

Unwaith y byddwch wedi datgan diwedd astudiaeth, ac wedi rhoi gwybod i'r cyrff adolygu perthnasol, efallai bydd angen i chi gyflwyno adroddiad terfynol am yr ymchwil. Bydd yr holl ymchwil ar sail astudiaeth sydd wedi cael ei adolygu gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil, angen cyflwyno adroddiad terfynol. Dylai'r adroddiad hwn gael ei gyflwyno i'r gwasanaeth moeseg ymchwil o fewn 12 mis i ddyddiad gorffen yr astudiaeth gan ddefnyddio'r ffurflen ar y we yma: https://www.hra.nhs.uk/approvals-amendments/managing-your-approval/ending-your-project/final-report-form/ 

hra logo

Ystyriaethau eraill ar ddiwedd yr astudiaeth:

  • Rhoi gwybod i gyfranogwyr
  • Cyhoeddi canlyniadau
  • Gofal ôl-ymchwil
  • Storio deunydd perthnasol (HTA)
  • Storio data

Dylai'r rhain gael eu gwneud yn unol â chymeradwyaeth yr astudiaeth a gofynion y noddwr.  E-bostiwch researchgovernance@abertawe.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.