Delwedd o ddau lawfeddyg yn sgrwbio i fyny cyn llawdriniaeth

MAE ANGEN BARN PWYLLGOR MOESEG FFAFRIOL AR UNRHYW YMCHWIL AR GYFRANOGWYR DYNOL

Os oes angen i'ch prosiect gael adolygiad moesegol gan un o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil y GIG, yn unol â rheoliadau Adrannau Iechyd y DU, dylech gyflwyno cais ar-lein drwy'r System Cymeradwyo Ymchwil Integredig (IRAS). Mae hyn yn cynnwys gofynion cyfreithiol i adolygu yn unol â deddfwriaeth y DU.  Yn achos prosiectau myfyrwyr PhD, dim ond y Prif Ymchwilydd, sef y goruchwyliwr academaidd, sy'n cael cyflwyno cais.

Y Prif Ymchwilydd yw'r unigolyn sy'n gyfrifol am bob agwedd ar gynnal y prosiect yn y DU, rhywun sydd â'r gallu i oruchwylio'r ymchwil yn effeithiol ac sydd ar gael i gyfathrebu â'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil a chyrff adolygu eraill yn ystod y broses ymgeisio a thra bydd yr ymchwil ar waith os oes angen.

Bydd angen nawdd sefydliadol Prifysgol Abertawe ar brosiectau ymchwil ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n dod o fewn cylch gorchwyl Fframwaith Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Tachwedd 2017). Fel arfer, y Noddwr yw cyflogwr y Prif Ymchwilydd ac mae'n derbyn cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod trefniadau cyfreithiol, yswiriant, rheoleiddio a diogelu ar waith i sefydlu, cynnal ac adrodd ar brosiect ymchwil.

Y Deon Arweinyddiaeth Academaidd ar gyfer Uniondeb a Moeseg Ymchwil yw'r unigolyn sydd ag awdurdod i lofnodi a gweithredu ar ran y Brifysgol mewn perthynas â nawdd sefydliadol Prifysgol Abertawe a materion llywodraethu.

Mae system ar-lein yr IRAS hefyd yn ffordd o sicrhau caniatâd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) a llwybrau Galluedd a Gallu Ymchwil a Datblygu'r GIG sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau ymchwil mewn perthynas â'r GIG neu ofal cymdeithasol.

P'un a ydych yn dilyn llwybr Cymeradwyaeth yr HRA neu’n mynd drwy Bwyllgor Moeseg Ymchwil yn unig, rhaid dilyn y camau canlynol:

  1. Cwblhau ffurflen gais ymchwil ar y System Ceisiadau Ymchwil Integredig (IRAS)
  2. Paratoi eich dogfennau astudio
  3. Cyflwyno eich cais drwy'r Gwasanaeth Cyflwyno Canolog
  4. Cyflwyno eich ceisiadau'n electronig i'r IRAS

IRAS (System Ceisiadau Ymchwil Integredig)

Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau deunydd e-ddysgu cyflym yr IRAS a fydd yn helpu i sicrhau bod eich cais yn cael ei dderbyn drwy Nawdd, Pwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG, yr HRA, llwybr Galluedd a Gallu'r GIG ac wrth ymdrin ag unrhyw newidiadau a rheoli cais y prosiect ar-lein.  Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â'r canlynol:

  1. System,
  2. Awdurdodiad,
  3. Cyflwyno,
  4. Rheoli fersiynau dogfen,
  5. Newidiadau a
  6. Chymeradwyaeth
  7. Cymorth a Chwestiynau Cyffredin

Oes angen cymeradwyaeth gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG arnaf?

Bydd offeryn penderfynu'r HRA yn eich helpu i benderfynu a oes angen cymeradwyaeth gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG ar eich astudiaeth.

Llwybrau Cynllunio a Chymeradwyaeth

Mae canllawiau defnyddiol ar gael ar y gwefannau canlynol:

  1. healthandcareresearch.gov.wales/research-route-map/
  2. hra.nhs.uk/planning-and-improving-research
  3. hra.nhs.uk/approvals-amendments/

Trefnu adolygiad gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG

Pan fydd nawdd Prifysgol Abertawe wedi'i awdurdodi mewn egwyddor, y cam nesaf yw cysylltu â'r CBS (Gwasanaeth Cyflwyno Canolog) i drefnu i’ch astudiaeth gael ei hystyried gan gyfarfod un o Bwyllgorau Moeseg Ymchwil y GIG. Os byddwch yn newid rhywbeth ar ôl i nawdd gael ei awdurdodi, bydd y cais yn annilys a bydd angen i chi gyflwyno cais am nawdd eto. Felly, mae'n well gofyn am awdurdodiad ar ôl rheoli fersiynau’r ddogfennaeth a phan fyddwch yn barod i gyflwyno i gyfarfod pwyllgor moeseg y GIG. Ni fydd llofnodion cydweithredwyr yn gwneud y cais yn annilys.