Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Brifysgol wedi parhau â'i hymrwymiad i ddigideiddio ei systemau drwy fuddsoddi yn Infonetica Ethics RM. Bydd y system ar-lein newydd hon i sgrinio moeseg ymchwil yn cael ei defnyddio gan holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr Prifysgol Abertawe sy'n gwneud gwaith ymchwil.

Beth yw’r system sgrinio moeseg ar-lein newydd?

Mae angen cynnal gwiriad moesegol ar bob ymchwil er mwyn diogelu partïon sy'n rhan o'r ymchwil ac ategu ymrwymiad y Brifysgol i gynnal ymchwil â'r safonau uchaf o uniondeb a chywirdeb.

ymchwilwyr sy'n gweithio mewn labordy

Bydd y system ar-lein newydd hon yn prosesu ac yn monitro ceisiadau moeseg ymchwil yn ôl safonau rheoleiddiol cydymffurfiaeth ac yn unol â pholisïau'r Brifysgol. Bydd yn ategu ac yn diogelu pob parti sy'n rhan o waith ymchwil gan gynnwys yr ymchwilwyr, cyfranogwyr mewn ymchwil, cydweithwyr, partneriaid a'r Brifysgol.

Ers 2016, mae'r Brifysgol wedi bod yn gweithredu sawl system ddigidol ac ar bapur ar draws ei gwahanol Adrannau/Ysgolion a Chyfadrannau. Bydd y system ar-lein hon yn symleiddio'r cwestiynau a'r broses mewn un platfform.

I ymchwilwyr, bydd y system yn galluogi cydweithio amser go iawn gyda chyd-ymchwilwyr drwy ymgorffori'r newidiadau a storio cyfathrebiadau mewn un lle. I adolygwyr ceisiadau moeseg ymchwil, bydd y system yn galluogi olrhain amser go iawn, cymharu, a gwneud sylwadau ar geisiadau.

Bydd y system ar-lein yn lleihau'r baich gweinyddol, bydd yn gynaliadwy i'r amgylchedd, ac yn galluogi adrodd yn haws.

Pryd bydd y system Moeseg newydd ar gael?

 Aeth y system yn fyw i fyfyrwyr ôl-raddedig a staff ar 15 Mawrth 2023.  Rhoddodd yr hen systemau (gan gynnwys system y Coleg Gwyddoniaeth) y  gorau i dderbyn ceisiadau newydd ar ddiwedd mis Ebrill 2023. Yr eithriad yw'r hen Goleg Peirianneg, a wnaeth roi'r gorau i dderbyn ceisiadau newydd ar ddiwedd mis Chwefror 2023. Rhaid prosesu'r holl geisiadau gan y Coleg Peirianneg a newidiadau drwy'r system ar-lein newydd.

I bwy mae'r system?

Bydd y system yn cael ei defnyddio gan bob myfyriwr, staff ac ymwelwyr sy'n gwneud gwaith ymchwil.

I fyfyrwyr, mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n ymgymryd â chyrsiau a sesiynau ymarferol sy'n gofyn am gasglu data ymchwil. Bydd y system yn asesu prosiectau ymchwil a thraethodau hir ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy'n cynnal ymchwil yn bennaf ar gyfer graddau BA, BSc, MSc, MA, Mhres, MSc drwy Ymchwil, MA drwy Ymchwil, MPhil, a PhD. O dymor yr hydref 2023-24 , bydd myfyrwyr israddedig yn cael eu gwahodd i ddefnyddio'r system a darperir hyfforddiant, yn unol â'r gofynion addysgu a'r diwygiadau i gwricwla ar gyfer pob maes pwnc.

I staff, bydd y system yn asesu gofynion moesegol ymchwil i staff ar gontractau parhaol a thymor sefydlog gan gynnwys cymrodorion ymchwil ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol.

Ni fydd system moeseg ymchwil Prifysgol Abertawe yn cael ei defnyddio ar gyfer prosiectau ymchwil sy'n gofyn am nawdd gan y Brifysgol ar gyfer gwaith sy'n cynnwys y GIG a gynhelir yn unol â Fframwaith Polisi'r DU ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2017). Caiff y ceisiadau hyn eu cyfeirio i system IRAS y GIG ar gyfer Moeseg y GIG. Ar gyfer ymchwil o'r fath, bydd angen cyflwyno cais am nawdd ynghyd â dogfennau ategol i Bwyllgor Goruchwylio Nawdd y Brifysgol i'w adolygu drwy'r Uned Llywodraethu Ymchwil researchgovernance@swansea.ac.uk cyn y gellir archebu drwy foeseg IRAS.  

Sut i gyrchu’r system 

Ewch i https://myapplications.microsoft.com/ a dewis ‘Research Ethics Applicant’. Gallwch gyrchu’r Ffurflen Moeseg Ymchwil drwy eich apiau o dan ‘Research Ethics Forms’.

Sgroliwch i’w chanfod neu deipiwch yn y bar chwilio. Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio eich e-bost prifysgol a chyfrinair. 

image of the research ethics application

Ddylwn i fod yn defnyddio'r system ar-lein?

Mae pob cyfadran wedi llunio rhestr o eithriadau, ac mae'r rhain ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin. Os yw eich ymchwil ar restr o eithriadau'r Gyfadran, does dim rhaid i chi gwblhau adolygiad moesegol drwy'r system ar-lein.

Ble i ddod o hyd i gymorth

E-bost Gwyddoniaeth a Pheirianneg: FSE-Ethics@abertawe.ac.uk
E-bost Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: FMHLS-Ethics@abertawe.ac.uk
E-bost y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: FHSS-Ethics@abertawe.ac.uk
E-bost ymholiadau nad ydynt yn ymwneud â Chyfadran: researchintegrity@abertawe.ac.uk
Ymchwil gyda'r GIG: researchgovernance@abertawe.ac.uk

Am ymholiadau am y system dechnegol:

Cyflwynwch docyn cymorth digidol i'r tîm yma

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Cwestiynau Cyffredin 

Os oes angen cymorth neu hyfforddiant ychwanegol arnoch, cysylltwch â Gweinyddwr Moeseg Ymchwil eich Cyfadran.

 FSE-Ethics@abertawe.ac.uk

FMHLS-Ethics@abertawe.ac.uk

FHSS-Ethics@abertawe.ac.uk

Cyfeiriad e-bost i ymholiadau nad ydynt ar gyfer Cyfadran: researchintegrity@abertawe.ac.uk

Ymchwil gyda'r GIG: researchgovernance@abertawe.ac.uk