Pennod 13: Effaith COVID-19 ar weithgarwch corfforol plant

TROSOLWG O'R PENNOD

Mae lefelau gweithgarwch corfforol plant yn gysylltiedig ag iechyd ffisiolegol ac iechyd seicogymdeithasol. Mae'r canllawiau gweithgarwch corfforol presennol yn argymell bod plant yn gwneud o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol bob dydd. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, amcangyfrifir bod mwy na thraean o blant yn methu bodloni'r canllawiau argymelledig hyn, ac awgrymir bod technoleg yn rhwystr cyffredin.

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae'r Athro Kelly Mackintosh a'n cyflwynydd, Dr Sam Blaxland, yn trafod effaith COVID-19, yn benodol ar weithgarwch corfforol plant. Yn ddiweddarach maent yn archwilio'r pwysigrwydd a'r manteision iechyd sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff ac maent yn darganfod sut gallwn ni i gyd wneud newidiadau cadarnhaol i'n ffyrdd o fyw drwy wreiddio gweithgarwch corfforol yn ein harferion pob dydd.

Am ein harbenigwyr

Diddordeb pennaf yr Athro Mackintosh yw gweithgarwch corfforol ac iechyd plant, yn enwedig ymyriadau mewn ysgolion. Yn y maes hwn, mae ei gwaith yn canolbwyntio ar fesur gweithgarwch corfforol a rôl newid ymddygiad mewn annog gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc .

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.