An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Sam Blaxland

Dr Sam Blaxland

Penodiad Er Anrhydedd (Celfyddydau), Humanities and Social Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513219

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Rwy’n Gymrawd Ôl-ddoethurol ac yn Diwtor mewn Hanes. Yn ddiweddar, rwyf wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Prifysgol Abertawe i nodi ei chanmlwyddiant. Mae Swansea University: Campus and Community in a Post-War World, 1945-2020 yn hanes cymdeithasol sy’n cwmpasu pobl ifanc, diwylliant academaidd, a’r berthynas y mae sefydliadau addysg uwch yn ei meithrin gyda’u cymunedau cyfagos, gan ddefnyddio Prifysgol Abertawe fel astudiaeth achos. Ynghyd â mathau mwy traddodiadol o ymchwil, roedd hyn yn cynnwys cydgysylltu a chynnal prosiect hanes llafar sylweddol, yn ogystal â siarad â gwahanol grwpiau a chymdeithasau o’r gymuned leol a’r rhanbarth ehangach.

Ar y cyd â’m hymchwil, rwyf hefyd yn darlithio a thiwtora ar amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig o fewn yr Adran Hanes. Mae fy niddordebau’n cynnwys agweddau amrywiol ar Brydain ers 1945, gan gynnwys protestiadau myfyrwyr ddiwedd y 1960au; diwylliant gwleidyddol ar lawr gwlad; hanes y Blaid Geidwadol, perthynas Prydain â’r hyn a ddatblygodd i fod yr Undeb Ewropeaidd; hanes Cymru; a gwleidyddiaeth plaid Prydain yn y 19eg ganrif. Rwyf hefyd yn dysgu dosbarthiadau ar theori hanes llafar, ac ysgrifennu hanes bywgraffyddol.

Cefais fy ngeni a’m magu yn Sir Benfro, ac astudiais fy ngraddau BA ac MA mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Deuthum i Brifysgol Abertawe yn 2013 i ymchwilio ac ysgrifennu traethawd ymchwil Ph.D. ar y Blaid Geidwadol yng Nghymru, 1945-1997, a ariannwyd yn llawn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Cynhaliwyd llawer o’r ymchwil ar gyfer hynny yn Llyfrgell Bodley yn Rhydychen, ac mewn archifdai lleol ledled y wlad. Rwyf wedi ysgrifennu nifer o erthyglau academaidd, erthyglau papur newydd ac erthyglau melin drafod yn seiliedig ar y gwaith hwn.

Rwy’n cyfrannu’n rheolaidd at gyfryngau Prydain a Chymru ar bynciau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi ymddangos ar BBC Breakfast, Radio 5 Live, a BBC News at 6, a gweithredais fel pyndit yn fyw o stiwdios y BBC yn ystod darllediadau etholiad cyffredinol 2019.

Rwyf hefyd yn cyflwyno ‘Exploring Global Problems’, cyfres newydd o bodlediadau Prifysgol Abertawe – https://www.swansea.ac.uk/research/podcasts/.

Meysydd Arbenigedd

  • Prifysgolion ers 1945
  • Gwleidyddiaeth Prydain ers 1945, yn enwedig y Blaid Geidwadol
  • Cymdeithasau gwleidyddol ar lawr gwlad a’u diwylliannau, yn enwedig cymdeithasau menywod
  • Hanes llafar
  • Cymru’r 20fed ganrif
  • Materion cyfoes a gwleidyddiaeth gyfo

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

 

  • Ysgoloriaeth ddoethurol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, 2013-2016 (£14,000 y flwyddyn ynghyd â ffioedd dysgu).
  • Ysgoloriaeth gradd Meistr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, 2012-2013 (£9,500 ynghyd â ffioedd dysgu).