Mae Dr Andrew Iwobi, sy'n aelod sefydledig o dîm LLM Abertawe, wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu gan y Brifysgol, i gydnabod ei gyfraniadau rhagorol at brofiad dysgu'r myfyrwyr.

Cyflwynwyd y wobr nodedig hon i Dr Iwobi gan yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) yng Nghynhadledd Flynyddol Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe.

Mae Dr Iwobi'n addysgu ar draws ystod o fodiwlau LLM (E-fasnach a Thaliadau Electronig, Olew a Nwy: Contractau a Rhwymedigaethau, Llongau ac Asedau Cyllid Cludadwy Eraill), a chafodd ei enwebu ar gyfer y wobr hon gan nifer sylweddol o'i fyfyrwyr. I gefnogi eu henwebiadau, dywedodd y myfyrwyr fod Dr Iwobi'n:

  • "Ddarlithydd rhagorol sy'n ymfalchïo yn ei waith a wir yn gofalu am ei fyfyrwyr"
  • "Bob amser yn brydlon ar gyfer y dosbarth, wedi paratoi'n dda ac yn barod i ymgysylltu â ni mewn trafodaethau masnachol berthnasol ond bywiog"
  • "Person caredig ac amyneddgar iawn sy'n mwynhau rhannu ei wybodaeth â myfyrwyr, sy'n golygu ei bod yn haws ei deall", a bod
  • "Ei ddarlithoedd ar flaen y gad ac yn eich ysgogi. Mae ei addysgu'n hawdd ei ddeall, ac mae'n ein tywys i feddwl a gofyn cwestiynau llawn ysbrydoliaeth yn y dosbarth"

Meddai Dr Iwobi ar ôl y seremoni wobrwyo:

"Mae'n anrhydedd fawr ac yn fraint cael derbyn y nod rhagoriaeth hwn gan y brifysgol ac rwy'n ddiolchgar i'r myfyrwyr am eu henwebiadau. Mae ansawdd ein rhaglenni LLM o'r radd flaenaf ac rwyf wrth fy modd yn cael ymuno â chydweithwyr eraill ar y Tîm Addysgu LLM megis yr Athro Tettenborn a Dr Leloudas, sydd hefyd wedi cael eu cydnabod mewn ffordd debyg gan y Brifysgol yn y gorffennol".

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma am y graddau LLM sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori