Cafodd y Clinig, a leolir yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, ei ddewis fel enillydd Gwobr LawWorks Cymru 2020, gwobr a enillodd hefyd ym mis Rhagfyr 2018.

Mae Gwobrau Pro Bono LawWorks yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniad ym maes gwaith cyfreithiol pro bono ac ymrwymiad y sector cyfreithiol i ehangu mynediad at gyfiawnder.

Cydnabyddir unigolion a sefydliadau ledled Cymru a Lloegr, gydag enillwyr yn cael eu dathlu mewn 11 categori gwahanol. Cynhaliwyd y seremoni ar 2 Rhagfyr a chyhoeddwyd yr enillwyr yn ddigidol am y tro cyntaf erioed.

Mae'r wobr yn dathlu carreg filltir arall ar gyfer y Clinig sydd wedi mwynhau cyfres o lwyddiannau yn ddiweddar o ganlyniad i ymrwymiad a gwaith caled y cyfreithwyr a'r myfyrwyr sy’n gwirfoddoli iddo. Cafodd y Clinig ei achredu â marc ansawdd yr Advice Quality Standard yn ddiweddar a bu’n llwyddiannus o'r blaen yng Ngwobrau LawWorks a'r Twrnai Cyffredinol am waith Pro Bono gan fyfyrwyr a Gwobrau Pro Bono LawWorks.

Wrth siarad am y llwyddiant diweddaraf, meddai'r Athro Richard Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith:

"Rwyf wrth fy modd bod Clinig y Gyfraith Abertawe wedi ennill y wobr hon.  Mae'n dyst i'r gefnogaeth rydym yn ei chael gan saith cwmni cyfreithiol lleol sy'n gwirfoddoli yn y Clinig ac i waith ein myfyrwyr cynghori sydd bob amser yn gweithio i'r safonau uchaf."

Gallwch ddarllen mwy am waith Clinig y Gyfraith Abertawe ar wefan y Clinig.

Rhannu'r stori