Simon Rainey CB

MA ANRH (CAERGRAWNT); LIC SP DR EUR (BRWSEL); ATHRO ER ANRHYDEDD

Simon Rainey

Mae Simon Rainey CB yn fargyfreithiwr yn Quadrant Chambers, y siambr flaenllaw ym maes cyfraith llongau yn Llundain. Ei brif feysydd ymarfer yw masnach ryngwladol, yn benodol cyfraith llongau, nwyddau, yswiriant a chludo a gwerthu nwyddau ac ynni. Mae'n cael ei benodi'n aml i fod yn gyflafareddwr (LCIA, ICC LMAA ac ar sail ad hoc, gan weithredu fel unig gyflafareddwr ac ar y cyd ag eraill); mae hefyd yn Gofiadur ac yn Ddirprwy Farnwr yn yr Uchel Lys yn adran Mainc y Frenhines. Mae'n cael ei gydnabod ers blynyddoedd maith gan y Legal 500 fel sidanwr blaenllaw ym maes llongau, nwyddau, cyfreitha masnachol a datrys anghydfodau, cyflafareddu rhyngwladol, yswiriant ynni, ailyswirio ac esgeulustod proffesiynol. Ef yw awdur The Law of Tug and Tow and Offshore Contracts (2il arg, Informa, 2004; ailenwyd y trydydd argraffiad yn The Law of Offshore Contracts ac fe’i cyhoeddwyd yn 2011). Cafodd ei gydnabod yn un o 10 Cyfreithiwr Morwrol Gorau 2017 gan Lloyd’s List.

I weld hanes ymchwil Mr Rainey, cliciwch yma