Cymrawd Gwadd

Dr Iur Bulent Sozer

Dr Iur Bülent Sözer  Bu Dr Iur Bülent Sözer yn astudio'r gyfraith yn Adran y Gyfraith Prifysgol Istanbul. Ar ôl iddo raddio ym 1965, cafodd swydd fel cynorthwyydd academaidd mewn Cyfraith Llongau a Chyfraith Hedfan.

Cafodd ei dderbyn i Far Istanbul ym 1966.

Ar ôl derbyn ei Ddoethuriaeth ym 1973, ymunodd â Turkish Airlines fel ymgynghorydd cyfreithiol. Ar ôl iddo ymddiswyddo o Turkish Airlines ym 1980, bu'n gwnsler cyffredinol ac yn is-lywydd i nifer o gwmnïau gwahanol, y rhan fwyaf ohonynt yn y sector ariannol, gan ganolbwyntio ar brydlesu ariannol.

Ailgydiodd Bülent Sözer yn ei yrfa academaidd ym 1995 a bu'n addysgu ym Mhrifysgol Bosphorus a Phrifysgol Koç. Bu'n ddarlithydd gwadd yn Adran y Gyfraith Prifysgol Akdeniz rhwng 2003 a 2004. Ar ôl iddo ymddeol o addysgu amser llawn yn 2005, ymunodd â Phrifysgol Yditepe, â chyfrifoldeb am y cyrsiau mewn Cyfraith Forwrol a Chyfraith Cludiant Rhyngwladol, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Ar hyn o bryd, mae'n addysgu Cyfraith Forwrol ym Mhrifysgol Piri Reis, sef yr unig Brifysgol Forwrol yn Nhwrci.

Bu'n aelod bwrdd ac yn Is-gadeirydd Cymdeithas Cyfraith Forwrol Twrci am dri thymor.

 Mae Dr Sözer yn aelod o Weithgor Rhyngwladol ar Gyfundrefn Enwau Llongau'r Comité Maritime International a bu hefyd yn aelod o banel y beirniaid a sefydlwyd gan y CMI i asesu'r papurau a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr am Wobr y CMI am Draethawd gan Berson Ifanc.

I weld hanes ymchwil yr Athro Sözer, cliciwch yma.