BCL (THESSALONIKI) LLM (SOUTHAMPTON) PHD (SOUTHAMPTON)

Ymunodd Dr Amaxilati â'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2019 fel darlithydd.  Graddiodd o Brifysgol Aristotle Thessaloniki (Gwlad Groeg) ac mae ganddi radd LLM mewn Cyfraith Forwrol o Brifysgol Southampton (DU). Cwblhaodd ei gradd PhD hefyd mewn cyfraith forwrol gyda phwyslais ar hawliau morwyr ym Mhrifysgol Southampton yn 2019.

Cyn ymuno â'r Sefydliad, roedd hi'n ddarlithydd yn y Queen Mary, Prifysgol Llundain lle bu'n addysgu cyfraith camwedd. Roedd hi hefyd yn diwtor ym Mhrifysgol Southampton lle bu'n addysgu cyfraith y morlys. Mae hi hefyd yn gyfreithiwr cymwysedig yng Ngwlad Groeg.

Mae diddordebau ymchwil Zoumpoulia mewn cyfraith llafur rhyngwladol a chyfraith forwrol. Mae ei phrif ddiddordeb ymchwil yn archwilio materion sy'n ymwneud ag amddiffyn hawliau morwyr, ecsbloetio llafur ar y môr, a chaethwasiaeth fodern ar y môr. Mae ei diddordebau hefyd yn ymestyn i reoleiddio morgludiant rhyngwladol.

Mae Dr Amaxilati yn cyfrannu at flog swyddogol y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol. Mae hi hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Ysgolheigion Cyfreithiol a changen y DU o’r Gymdeithas Menywod mewn Morgludiant a Masnachu.

Mae Dr Amaxilati yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).