Yr Athro Baris Soyer

BA (Ankara), LLM, PhD (Southampton), Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol

Professor Baris Soyer

Penodwyd yr Athro Soyer i swydd darlithydd yn Abertawe yn 2001 (bu gynt yn addysgu yn Ysgol y Gyfraith Caerwysg); cafodd ei ddyrchafu'n Uwch-darlithydd yn 2004, yn Ddarllenydd yn 2006 ac yn Athro yn 2009. Cafodd ei addysg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Southampton lle enillodd ei PhD yn 2000. Ar hyn o bryd, ef yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, ac mae ei brif ddiddordeb ymchwil ym maes yswiriant, yswiriant morol yn benodol, ac mae ganddo ddiddordebau helaeth hefyd ym mhob agwedd ar gyfraith forwrol a masnachol.

Ef yw awdur y llyfr Warranties in Maritime Insurance (2001) a enillodd Wobr Cavendish yn 2001 ac enillodd Wobr Lyfr Cymdeithas Cyfraith Yswiriant Prydain yn 2002 am y cyfraniad gorau at lenyddiaeth ar yswiriant. Gwnaeth ail argraffiad y llyfr hwn, a gyhoeddwyd yn 2006, gyfraniad allweddol at ddiwygio'r gyfraith yn y maes hwn, a chafodd ei ddyfynnu'n helaeth gan Gomisiynau Cyfraith Lloegr a'r Alban yn eu hadroddiadau a arweiniodd at Ddeddf Yswiriant 2015.  Cyhoeddodd yr Athro Soyer fonograff arall hefyd, Marine Insurance Fraud, yn 2014. Enillodd y llyfr hwn Wobr Lyfr Cymdeithas Cyfraith Yswiriant Prydain hefyd yn 2015, sy'n golygu'r Athro Soyer yw'r unig awdur i ennill y Wobr bwysig hon ddwywaith. Yn ogystal, cyhoeddwyd ei waith yn helaeth ym mhrif gyfnodolion ei faes, gan gynnwys y Law Quarterly Review, Cambridge Law Journal, Lloyd's Maritime and Commercial Law Quarterly, Journal of Business Law, Journal of Contract Law, Journal of International Maritime Law, Berkeley Journal of International Law, Transnational Environment Law, Journal of Maritime Law a'r Commerce and Torts Law Journal. Mae’n golygu ac yn cyfrannu at Reforming Marine and Commercial Insurance Law (Informa, 2008), Pollution at Sea: Law and Liability (Informa, 2012); Carriage of Goods by Sea, Land and Air (Informa, 2013), Offshore Contracts and Liabilities (Informa, 2014), Ship Building, Sales and Finance (Informa, 2015), International Trade and Carriage of Goods (Informa, 2016), Charterparties: Law, Practice and Emerging Issues (Informa, 2017) ac mae wedi cyfrannu at destunau blaenllaw yn y maes megis Marine Insurance: The Law in Transition (2006), Liability Regimes in Contemporary Maritime Law (2007), Legal Issues relating to Time Charterparties (2008), Modern Law of Marine Insurance Cyfrolau 2, 3 a 4 (2002, 2009 a 2015).

Mae ei brofiad addysgu'n cynnwys lefelau israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys addysgu modiwl ôl-raddedig mewn Cludo Nwyddau ar y Môr, Siartrau Llogi Llongau: Cyfraith ac Ymarfer, Cyfraith Fasnachol Drawswladol, Yswiriant Morol, Cyfraith Olew a Nwy a Chyfraith y Morlys. Mae'n aelod o fwrdd golygyddol y Journal of International Maritime Law, Shipping and Trade Law a Baltic Maritime Law Quarterly. Mae ganddo gysylltiadau academaidd â llawer o sefydliadau tramor ac mae'n athro gwadd ym Mhrifysgol Lorraine (Ffrainc); Prifysgol Forwrol Shanghai (Tsieina), Prifysgol Jimei (Tsieina) a Phrifysgol Forwrol Dalian (Tsieina).

Ar hyn o bryd, mae'n addysgu Cyfraith y Morlys, Siartrau Llogi Llongau: Cyfraith ac Ymarfer a Chyfraith Yswiriant Morol ar y rhaglenni LLM, ac mae'n cyfrannu at gyflwyno'r cyrsiau proffesiynol sy'n cael eu cynnig gan y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol.

I weld hanes ymchwil yr Athro Soyer, cliciwch yma