TASM 2019 YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Cynhaliwyd Cynhadledd TASM 2019 rhwng 25 a 26 Mehefin a chofrestrodd 236 o gynadleddwyr o 23 gwlad ledled y byd. Roedd y cynadleddwyr yn cynnwys ymchwilwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a nifer mawr o randdeiliaid anacademaidd, gan gynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa Gartref y DU, a'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, Heddlu Metropolitanaidd Llundain, Facebook, Twitter, Google, Adran Diogelwch Cartref Llywodraeth UDA a Phrif Swyddog Gweithredu StratCom NATO.

Dros y deuddydd, cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddewis o 25 panel ymneilltuo gwahanol, gan gynnwys 74 o siaradwyr yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gwahanol. Mae copïau o'r crynodebau, y prif wersi a'r cyflwyniadau sleid ar gael isod.

Roedd y brif sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan JM Berger (Cymrawd Ymchwil VOX-Pol a myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe) a Dr Krisztina Huszti-Orban (Uwch-ymgynghorydd Cyfreithiol i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Wrthderfysgaeth a Hawliau Dynol). Mae recordiadau o'u cyflwyniadau ar gael yma.

Sesiwn olaf y gynhadledd oedd "In conversation with the GIFCT" gyda William McCants (Arweinydd Polisi Cyhoeddus Google ar iaith casineb a therfysgaeth), Dr Erin Marie Saltman (Rheolwr Polisi Facebook â chyfrifoldeb am ymdrechion gwrthderfysgaeth a gwrtheithafiaeth yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica) ac Adam Hadley (Sefydlwr a Chyfarwyddwr Tech Against Terrorism).

DEUNYDDIAU'R GYNHADLEDD

Gallwch lawrlwytho llyfryn yn cynnwys Crynodebau a Gwersi Allweddol y gynhadledd.

Rhestr o'r holl gyflwyniadau a siaradwyr â ffocws ar Islamiaeth radical.

GWYLIWCH FIDEO TASM 2019

CYFLWYNIADAU TASM 2019