TASM YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Cynhelir Cynhadledd TASM ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe (y buddsoddwyd £450m ynddo) ac mae'n dod ag amrywiaeth o ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr ynghyd, o nifer o wledydd a chefndiroedd disgyblaethol gwahanol.

Mae'r gynhadledd yn cynnwys prif gyflwyniadau gan arbenigwyr blaenllaw a chaiff cynadleddwyr gyfle i fynychu nifer o drafodaethau panel sy'n cynnwys amrywiaeth helaeth o siaradwyr gwahanol.