TASM 2017 YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Denodd Cynhadledd TASM 2017 145 o gynadleddwyr o 15 gwlad ar draws chwe chyfandir. Yn ogystal ag ymchwilwyr academaidd, roedd y cynadleddwyr hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o randdeiliaid anacademaidd, gan gynnwys Facebook, Tech Against Terrorism, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, CCD-COE NATO, Swyddfa Gartref y DU, Adran Wladol yr UD a'r BBC.

Cyflwynodd 59 o siaradwyr eu gwaith am sut mae terfysgwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac ymatebion i'r ffenomen hon, gan gynnwys chwe phrif gyflwyniad gan Max Hill CB (Adolygwr Terfysgaeth Annibynnol y DU), Dr Erin Marie Saltman (Rheolwr Polisi Facebook â chyfrifoldeb am ymdrechion gwrthderfysgaeth a gwrtheithafiaeth yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica), Syr John Scarlett (cyn Bennaeth MI6), yr Athro Maura Conway (Prifysgol Dinas Dulyn), yr Athro Philip Bobbit (Ysgol y Gyfraith Columbia) a'r Athro Bruce Hoffman (Prifysgol Georgetown). Mae recordiadau o'r prif gyflwyniadau ar gael yma.

GWYLIWCH FIDEO TASM 2017