Prosiect Diogeledd, Diogelwch a Gwytnwch Ymchwilwyr (REASSURE)

Mae risgiau unigryw yn gysylltiedig ag ymchwil academaidd i eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein. Y risg gyntaf yw gwylio cynnwys trallodus yn rheolaidd, er enghraifft dadansoddiad manwl o filoedd o fideos neu luniau wedi’u creu gan ISIS. Yr ail un yw’r posibilrwydd y gall partïon troseddol dargedu’r ymchwilydd, ar-lein ac all-lein, drwy ddocsio, trolio neu fygythiadau corfforol. Hyd yn hyn, nid oes llawer o ganllawiau wedi bod ar gael i ymchwilwyr am sut i ymdopi naill ai â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i wylio deunydd treisgar a sarhaus dro ar ôl tro neu’r heriau o gadw’n ddiogel yn yr amgylchedd rhithwir ac yn gorfforol.  Nid oes astudiaeth gynhwysfawr wedi bod chwaith o natur yr heriau neu’r risgiau hynny.

Nod prosiect REASSURE (Researcher Security, Safety and Resilience) yw llenwi’r bwlch hwn. Mae REASSURE yn cofnodi ac yn manylu ar feysydd pryder o ran lles ymchwilwyr, ar sail profiad yr ymchwilwyr eu hunain.

Wedyn, a hyn sy’n hollbwysig, bydd REASSURE yn llunio strategaethau ar gyfer lliniaru’r rhain. Bydd REASSURE yn tynnu ar sylfaen wybodaeth meysydd cysylltiedig, gan gynnwys gorfodi’r gyfraith, cwmnïau technoleg a newyddiaduraeth, i lunio Siarter ar gyfer Moeseg a Diogelwch Ymchwilwyr (CARES). Caiff hon ei theilwra ar gyfer ymchwilwyr sy’n ymwneud ag eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein, gan roi canllawiau am arfer gorau iddynt.

Diben REASSURE yw gwella lles a diogelwch ymchwilwyr ym maes eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein drwy gydweithredu â’r gymuned o ysgolheigion yn y maes hwn.

Cam 1: Siarad ag Ymchwilwyr

Hyd yn hyn, mae tîm REASSURE wedi cyfweld â thua 40 o gydweithwyr am yr heriau i les sy’n gysylltiedig ag ymchwilio i’r maes hwn, gan gasglu eu profiadau a’u hawgrymiadau ar gyfer newid cadarnhaol (e.e. dulliau ymdopi personol, offer technoleg etc.).

Roedd cyfranogwyr ein cyfweliadau’n cynnwys amrywiaeth o gydweithwyr sydd â degawdau o brofiad ymchwil rhyngddynt ac sydd wedi gwylio symiau anferth o gynnwys eithafol a therfysgaeth ar-lein. Maent yn gweithio mewn prifysgolion a melinau trafod yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Mae adroddiad mynediad agored yn seiliedig ar ddata cyfweliadau Cam 1 yn cael ei lunio ar hyn o bryd.

Cam 2: Datblygu Arfer Gorau

Mae Cam 2 yn cynnwys cydweithredu ag eraill sy’n ymwneud ag eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein yn eu gwaith proffesiynol - lluoedd gorfodi’r gyfraith, sefydliadau newyddiaduraeth, llunwyr polisi a chwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol – ac eraill mewn meysydd perthnasol (cam-drin plant yn rhywiol ar-lein).  Bwriedir cynnal gweithdy ar y cyd i’w gynnal ym mhencadlys Twitter yn Nulyn, lle byddwn yn rhannu ac yn trafod ein profiadau a’n heriau cyffredin ac yn cyflwyno ffyrdd o ddatblygu arfer da.

Pwy sy’n ymwneud â REASSURE?

Yn ogystal â CYTREC ym Mhrifysgol Abertawe, partneriaid eraill y prosiect yw VOX-Pol,  Hedayah, a modus|zad. Crëwyd y prosiect yn ystod y ‘pwll tywod’ ar ôl cynhadledd  TASM 2019 ac roedd yn un o’r prosiectau a ddewiswyd i dderbyn grant bach o’r arian a ddarparwyd gan Ganolfan yr Economi Ddigidol CHERISH Prifysgol Abertawe a Facebook ar yr achlysur hwnnw.

Sut cafodd y prosiect ei greu?

Roedd pryder ynghylch lles ymchwilwyr eisoes wedi cael ei fynegi mewn gweithdy a drefnwyd ar y cyd gan CYTREC a VOX-Pol, sef Moeseg mewn Ymchwil i Derfysgaeth, ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2018. Un o’r prif themâu a ddaeth allan o’r digwyddiad hwn oedd hunan-ofal ymchwilwyr. Roedd ymchwilwyr wedi sôn am straen, mathau eraill o niwed i’w lles meddyliol ac emosiynol a risgiau posib i ddiogelwch, ynghyd â diffyg canllawiau am sut i ymdrin â’r rhain. Nod REASSURE yw adeiladu ar ganfyddiadau gweithdy 2018.