Y GANOLFAN YMCHWIL I SEIBERFYGYTHIADAU

Mae’r Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) yn archwilio amrywiaeth o fygythiadau ar-lein – o derfysgaeth, eithafiaeth a seiberdroseddu, i gamfanteisio’n rhywiol ar blant a meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein.

Ei nodau craidd yw:

  • Deall bygythiadau ar-lein yn well
  • Creu ymchwil empirig wreiddiol newydd
  • Llywio polisi ac ymarfer

Mae CYTREC yn ganolfan ryngddisgyblaethol. Mae gan ei harbenigwyr gefndiroedd yn y gyfraith, mewn troseddeg, gwyddor wleidyddol, ieithyddiaeth a seicoleg. Mae'n gydweithredol hefyd ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid anacademaidd ar bob cam yn ystod y broses ymchwil. Mae CYTREC yn gweithio gyda phartneriaid i ofyn y cwestiynau ymchwil o bwys, rhannu canfyddiadau a llunio argymhellion polisi. Mae partneriaid CYTREC yn cynnwys RUSI, Tech Against Terrorism a'r NSPCC. Mae ei gwaith wedi cael ei gyflwyno ledled y byd, gan gynnwys i Swyddfa Gartref y DU, Adran Wladol yr UD, Cyrsiau Hyfforddiant Uwch Europol a NATO.

Mae CYTREC yn rhan o Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru fel rhan o fenter sy’n werth £5.6 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe. Un o brif amcanion y Labordy Arloesi Cyfreithiol yw galluogi datblygiad platfformau a fframweithiau technolegol i gefnogi gwrthderfysgaeth a diogelwch. Dysgwch fwy am Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru.