Llwybr i Ymarfer

Yr unig ofyniad academaidd ar gyfer cymhwyso drwy'r SQE yw bod yn rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd, neu gymhwyster cyfatebol. Cymhwyster cyfatebol fyddai prentisiaeth lefel 6 neu 7 neu gymhwyster proffesiynol. Gall hyn fod mewn unrhyw ddisgyblaeth, felly nid oes gofyniad bellach bod ymgeiswyr yn meddu ar QLD neu GDL er mwyn cymhwyso’n gyfreithwyr.

Fodd bynnag, bydd angen i ymgeiswyr gael rhywfaint o hyfforddiant cyfreithiol i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y mae eu hangen er mwyn sefyll a phasio'r asesiadau SQE. Mae ymgeiswyr yn gallu dewis yr opsiwn mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion unigol, yn amrywio o gyrsiau gradd Meistr amser llawn neu ran-amser, i gyrsiau ar-lein i baratoi am asesiadau. Gan fod yr SQE yn gymharol newydd, mae disgwyl y bydd yr ystod o opsiynau'n parhau i gynyddu dros amser.

Rhaid i ymgeiswyr basio'r asesiadau SQE1 a SQE2 cyn y gallant gyflwyno cais i gael eu derbyn yn gyfreithiwr. Rhaid pasio SQE1 cyn y gall ymgeiswyr gofrestru am SQE2.  

Rhaid i ymgeiswyr hefyd gwblhau dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwysol (QWE) cyn cymhwyso, y gellir eu cymryd mewn hyd at bedwar sefydliad. QWE yw'r elfen ofynnol o ddysgu yn y gweithle er mwyn cymhwyso drwy'r llwybr SQE, sy'n disodli'r gofyniad am gontract hyfforddi ffurfiol o dan lwybr yr LPC. Gallai gwaith fel gweithiwr paragyfreithiol, neu gynorthwy-ydd cyfreithiol, er enghraifft gyfrif tuag at QWE, os yw'n cynnwys darparu gwasanaethau cyfreithiol mewn modd sy'n cynnig cyfle i feithrin rhai o'r cymwyseddau y mae eu hangen i ymarfer fel cyfreithiwr, neu'r holl gymwyseddau hynny, fel y pennir gan yr SRA. Nid oes angen gwneud QWE mewn dwy flynedd barhaus ac nid oes angen ei wneud ar ôl pasio'r asesiadau SQE. Gallai blwyddyn mewn ymarfer cyfreithiol fel rhan o radd israddedig yn y gyfraith, er enghraifft, gyfrif tuag at QLD, ar yr amod ei bod yn darparu'r profiad a'r cyswllt gofynnol.

Two people having a meeting