Paratoi am yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ddarparwr sefydledig y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a'r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion ers bron  20 mlynedd. Ar ôl i'r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE) gael ei gyflwyno'n ddiweddar yn llwybr newydd i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, rydym wedi datblygu cyrsiau lefel meistr newydd wedi'u llunio i helpu i baratoi graddedigion yn y gyfraith a graddedigion nad ydynt yn meddu ar radd yn y gyfraith ar gyfer yr SQE a llwyddiant mewn ymarfer cyfreithiol.