Amdanom Ni

Fel rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, ffocws y Ganolfan Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol newydd ei sefydlu yw sicrhau bod y rhai sydd wedi penderfynu mynd i'r proffesiwn cyfreithiol yn gyfreithwyr yn parhau i gael eu haddysgu a'u cefnogi mewn canolfan ragoriaeth.

Mae'r rhaglenni ôl-raddedig ar gyfer graddedigion y gyfraith a'r rhai nad ydynt yn meddu ar radd yn y gyfraith yn adeiladu ar sylfaen gadarn o addysgu i ddarpar gyfreithwyr am dros 20 mlynedd. Bydd y Ganolfan yn parhau i ddarparu addysg lwyddiannus, sefydledig a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr â'r nod o gefnogi unrhyw fyfyriwr i gyflawni ei nodau yn y proffesiwn cyfreithiol.

Mae'r tîm addysgu hynod brofiadol i gyd yn gyfreithwyr sy'n ymarfer/nad ydynt yn ymarfer sy'n meddu ar wybodaeth helaeth o addysgu cyfreithwyr y dyfodol. Wedi'i ddatblygu o rwydwaith o gysylltiadau ag ymarfer cyfreithiol, mae rhaglen lleoliadau gwaith a digwyddiadau cyflogadwyedd y Ganolfan yn ffordd o baratoi pob myfyriwr er mwyn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle cyflogadwyedd fel myfyrwyr presennol ac fel cyn-fyfyrwyr.