Beth yw'r SQE a'r LPC?

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Cyflwynwyd yr SQE ym mis Medi 2021, fel llwybr newydd i gymhwyso'n gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae'n cynnwys dwy set o arholiadau a asesir yn allanol (SQE 1 a 2), sy'n asesu y gallu i roi gwybodaeth gyfreithiol ar waith (Functioning Legal Knowledge), sgiliau ymarferol a gwybodaeth. Nid cwrs prifysgol yw'r SQE, ond mae cyrsiau ar gael ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer sefyll yr SQE.

Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (SQE)

Mae'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn gwrs cyfreithiol proffesiynol sy'n datblygu’r sgiliau pwysig a’r hyder y mae eu hangen ar gyfer gyrfa yn y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Mae'n rhaglen ôl-raddedig ac mae ar agor i raddedigion y gyfraith a ddechreuodd radd yn y gyfraith neu raglen GDL erbyn mis Medi 2021.

Darllenwch ymlaen i gael gwybodaeth lawn am yr opsiwn gorau i chi.

I Bwy Mae’r SQE yn Orfodol?

Yr SQE yw'r llwybr gorfodol i gymhwyso ar gyfer ymgeiswyr nad oeddent wedi gwneud un o'r canlynol erbyn 21 Medi 2021:

  • Dechrau neu eisoes wedi cwblhau eu Gradd Cymhwyso yn y Gyfraith (QLD)
  • Derbyn cynnig i astudio am eu QLD
  • Talu blaendal na ellir ei ad-dalu am eu QLD

Mae'r un gofynion hefyd yn berthnasol i'r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL), ond y dyddiad terfynol amgen yw 1 Medi 2021.

Gall ymgeiswyr sydd wedi gwneud unrhyw un o'r uchod ddewis naill ai gymhwyso drwy'r SQE neu drwy lwybr y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a chontract hyfforddi. Os ydych chi yn y categori hwn, mae pethau penodol i’w hystyried a allai helpu i lywio'ch penderfyniad o ran y llwybr i'w ddewis.

Gofynion Mynediad ar Gyfer Cwrs Ôl-Raddedig

LPC - mae'n ofynnol i chi basio'r LPC, sy'n cynnwys astudio ôl-raddedig am flwyddyn. Pasio'r LPC yw'r cymhwyster y mae ei angen arnoch. Ar ôl i chi basio'r LPC, nid oes rhagor o asesiadau i chi eu sefyll.

SQE - nid yw astudio ôl-raddedig yn ofynnol, ond bydd angen i ymgeiswyr ystyried sut byddant yn paratoi orau ar gyfer arholiadau'r SQE. Mae arholiadau'r SQE yn cael eu pennu'n ganolog, ac nid ydynt yn rhan o unrhyw gyrsiau paratoi. Bydd angen i ymgeiswyr sydd am gymhwyso drwy lwybr yr SQE sefyll a phasio'r arholiadau SQE1 ac SQE2, yn ogystal ag unrhyw asesiadau a bennir gan y sefydliad lle maent yn dewis paratoi.

Gofynion Dysgu yn y Gweithle

LPC - mae angen i ymgeiswyr gwblhau contract hyfforddi sy'n para dwy flynedd gyda darparwr hyfforddiant wedi'i awdurdodi gan yr SRA er mwyn cymhwyso drwy lwybr yr LPC. Mae ymgeisio am gontractau hyfforddi yn broses gystadleuol iawn, ac nid oes gwarant y bydd ymgeiswyr yn llwyddiannus. Mae angen i ymgeiswyr sy'n meddu ar LPC gymhwyso erbyn mis Rhagfyr 2032, neu bydd angen iddynt sefyll a phasio'r arholiadau SQE er mwyn cymhwyso ar ôl hynny.

SQE - mae angen i ymgeiswyr gwblhau profiad gwaith cymhwysol (QWE) am ddwy flynedd; gellir gwneud hynny mewn hyd at bedwar sefydliad gwahanol. Gallai rolau gweithiwr paragyfreithiol neu gynorthwy-ydd cyfreithiol gyfrif tuag at QWE. Hefyd, gallai gweithio mewn cymhorthfa gyfreithiol neu ganolfan cyngor cyfreithiol gyfrif, ar yr amod eu bod yn darparu'r profiad a'r cyswllt gofynnol.

Cyllid

LPC - nid oes cyllid benthyciadau i fyfyrwyr ar gael i ariannu'r LPC, sy'n dyfarnu Diploma Ôl-raddedig i ymgeiswyr llwyddiannus. Mae cyllid benthyciadau i fyfyrwyr ar gael i gyrsiau ar lefel Meistr yn unig. Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n cynnig LPC hefyd yn cynnig rhaglen Meistr sy'n cynnwys yr LPC. Bydd myfyrwyr sy'n dewis opsiwn Meistr yn cael mynediad at gyllid myfyrwyr.

SQE - nid oes cyllid benthyciadau i fyfyrwyr ar gael i ariannu'r arholiadau SQE oherwydd eu bod yn gymhwyster proffesiynol. Pan fo myfyrwyr yn dewis astudio cymhwyster ar lefel Meistr i helpu i baratoi am yr arholiadau SQE, byddant yn cael mynediad at gyllid myfyrwyr. Cynghorir ymgeiswyr i wirio a yw lefel y cyllid myfyrwyr y gallant gael mynediad ati yn ddigonol i ariannu ffïoedd y cwrs Meistr a rhoi cynnig ar sefyll yr asesiadau SQE. Nid oes cyllid myfyrwyr ar gael am gyrsiau paratoi nad ydynt ar lefel Meistr.

Blaenoriaethau Cyflogwyr

Oherwydd bod yr SQE yn gymhwyster newydd a heb ei brofi yn gymharol, fe'ch cynghorir i archwilio a yw darpar gyflogwyr y mae gennych ddiddordeb ynddynt yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n meddu ar LPC neu ymgeiswyr sy'n meddu ar SQE. Er mai'r LPC yw'r cymhwyster mwyaf cydnabyddedig o hyd ar hyn o bryd, gallai blaenoriaethau cyflogwyr newid wrth i'r SQE ddod yn fwy sefydledig.

Crynodeb Cyfeirio Cyflym

Gallwch gymharu'n gyflym y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) a'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) er mwyn gweld pa un sy'n addas i chi.

Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC)

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Gofyniad i astudio ymhellach

Dim gofyniad i astudio ymhellach, ond bydd angen paratoi am yr SQE

Pasio'r LPC yw'r cymhwyster

Angen pasio'r SQE yn ogystal ag unrhyw astudio pellach

Cyllid ar gael ar gyfer LPC/LLM

Cyllid ar gael ar gyfer cyrsiau ar lefel Meistr er mwyn helpu i baratoi

Dim ffïoedd ar gyfer ailsefyll

Angen talu am yr SQE ac i ailsefyll unrhyw arholiadau

Angen cael contract hyfforddi, neu gael profiad gwaith cymhwysol (QWE) a sefyll arholiadau SQE2

Angen cael profiad gwaith cymhwysol (QWE)

Cymhwyster cydnabyddedig

Cymhwyster cydnabyddedig os yw'n radd Meistr, neu PGDip i helpu i baratoi

Costau - ffïoedd cwrs LPC/LLM Costau - ffïoedd arholiadau SQE (a ffïoedd ar gyfer ailsefyll unrhyw arholiadau); costau paratoi