Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) – Y Llwybr Newydd i Gymhwyso

Cyflwynwyd yr SQE ym mis Medi 2021, yn llwybr newydd i gymhwyso'n gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n cynnwys dwy gyfres o arholiadau wedi'u hasesu'n ganolog: SQE1, sy'n asesu Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) ac SQE 2, sy'n asesu gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol ymarferol.

Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK)

Asesir Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol drwy arholiadau amlddewis ateb unigol gorau a gynhelir dros ddau ddiwrnod. Mae SQE1 yn asesu'n fras sylfeini'r gyfraith sydd wedi cael eu hasesu'n draddodiadol drwy Radd Cymhwyso yn y Gyfraith (QLD) neu Ddiploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) a'r meysydd ymarfer craidd a asesir yng ngham 1 y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC). Rhennir SQE1 yn ddwy ran (FLK1 ac FLK2), sy'n cwmpasu'r meysydd pwnc canlynol, yn ogystal â moeseg ac ymddygiad proffesiynol:

FLK1

  • Cyfraith ac Ymarfer Busnes
  • Datrys Anghydfod
  • Contract
  • Y Gyfraith Gamweddau
  • System Gyfreithiol Cymru a Lloegr
  • Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol a Chyfraith a Gwasanaethau Cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd

FLK2

  • Ymarfer Eiddo
  • Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
  • Cyfrifon Cyfreithwyr
  • Cyfraith Tir
  • Ymddiriedolaethau
  • Cyfraith ac Ymarfer Troseddol

Sgiliau Cyfreithiol Ymarferol

Asesir sgiliau cyfreithiol ymarferol yn SQE2 drwy asesiadau ysgrifenedig ac ar lafar a gynhelir dros bum niwrnod. Asesir chwe sgìl yng nghyd-destun pum maes ymarfer, fel a ganlyn:

Sgiliau SQE1:

  • Cyfweld â chleientiaid a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol
  • Eiriolaeth
  • Dadansoddi achosion a materion
  • Ymchwil gyfreithiol
  • Ysgrifennu cyfreithiol
  • Drafftio cyfreithiol

Meysydd Ymarfer SQE2:

  • Ymgyfreithiad Troseddol (gan gynnwys rhoi cyngor i gleientiaid yng ngorsaf yr Heddlu)
  • Datrys Anghydfod
  • Ymarfer Eiddo
  • Ewyllysiau a Diffyg Ewyllys, Gweinyddu ac Ymarfer Profeb
  • Rheolau a rheoliadau sefydliadau busnes (gan gynnwys gwyngalchu arian a gwasanaethau ariannol)

Meini Prawf Cymhwyso’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Er mwyn cymhwyso drwy'r SQE, rhaid i ymgeiswyr:

  • feddu ar radd (neu gymhwyster cyfwerth, megis prentisiaeth lefel 6 neu 7 neu gymhwyster proffesiynol) mewn unrhyw ddisgyblaeth);
  • pasio'r arholiadau SQE1 ac SQE2; a
  • chwblhau o leiaf ddwy flynedd o Brofiad Gwaith Cymhwysol (QWE) ar sail amser llawn neu gyfwerth.

Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (yr SRA) yn nodi bod yn rhaid i QWE fod yn brofiad o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol sy'n rhoi'r cyfle i ymgeiswyr feithrin y cymwyseddau penodedig i gyfreithwyr. Gellir cwblhau'r QWE mewn hyd at bedwar sefydliad.

Fel pob llwybr i gymhwyso, rhaid i ymgeiswyr hefyd fodloni gofynion yr SRA o ran cymeriad ac addasrwydd.

Yr SQE yw'r llwybr gorfodol i gymhwyso ar gyfer ymgeiswyr nad oeddent wedi gwneud un o'r canlynol erbyn 21 Medi 2021:

  • Dechrau neu eisoes wedi cwblhau eu Gradd Cymhwyso yn y Gyfraith (QLD)
  • Derbyn cynnig i astudio am eu QLD
  • Talu blaendal na ellir ei ad-dalu am eu QLD

Mae'r un gofynion hefyd yn berthnasol i'r Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL), ond y dyddiad terfynol amgen yw 1 Medi 2021.

Gall ymgeiswyr a oedd wedi gwneud unrhyw un o'r uchod ddewis naill ai i gymhwyso drwy'r SQE neu drwy'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a'r llwybr contract hyfforddi.

Ffïoedd SQE

Faint yw cost yr SQE?

(yn cynnwys FLK 1 a 2 sy'n costio £811 yr un)

Cyfanswm: £4,115 (mae'r holl ffioedd wedi'u heithrio o TAW)

Mae cost yr SQE yn ychwanegol at gost unrhyw gyrsiau paratoi y gallech eu dilyn er mwyn paratoi am yr arholiad.

Ffïoedd i Ailsefyll SQE

Os byddwch chi'n methu FLK1 neu FLK2, byddwch chi'n talu £811 i ailsefyll yr elfen a fethwyd gennych. Os byddwch chi'n methu'r ddau, bydd angen i chi dalu'r ffi lawn o £1,622 er mwyn ailsefyll y ddau.

Os byddwch chi'n methu SQE2, bydd angen i chi dalu'r swm llawn o £2,493 er mwyn ei ailsefyll.