Gwobr am gyfraniad arbennig i'r Brifysgol

Mae un o gyn-fyfyrwyr Academi Hywel Teifi wedi ennill Gwobr Ede and Ravenscroft 2016/17 am gyfraniad eithriadol i fywyd myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Graddiodd Lewys Aron gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 2017.  Bu'n weithgar iawn gydag Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe gan wasanaethu fel Swyddog Materion Cymraeg a'r flwyddyn ganlynol, etholwyd Lewys yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr.  Yn sgil holl gyflawniadau’r flwyddyn honno, cydnabuwyd Undeb Myfyrwyr Abertawe yn ‘Undeb y Flwyddyn’ ar gyfer 2015-16 gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. 

Wrth dderbyn y wobr am £250, dywedodd Lewys, sy'n hanu o Gorslas yng Nghwm Gwendraeth: "Roedd yn bleser astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn bleser pellach gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol. Dyma brifysgol sy'n dod â'r gorau allan o'i myfyrwyr a dyna pam rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ennill y wobr hon."

Wrth ei longyfarch ar ennill y wobr, dywedodd pennaeth Adran y Gymraeg, Dr Rhian Jones:   "Nid oes dwywaith fod Lewys yn llawn haeddu'r wobr hon.  Yn ogystal â pherfformio’n ardderchog yn academaidd, cyfrannodd yn helaeth i fywyd y Brifysgol.  Yn ystod ei gyfnod fel Swyddog Iaith Gymraeg Undeb y Myfyrwyr ac yna fel Llywydd yr Undeb hwnnw, gweithiodd Lewys yn ddygn ac yn ddiflino i sicrhau datblygiadau sylweddol er lles ei gyd-fyfyrwyr, gan achub ar bob cyfle i hyrwyddo'r iaith.  Rydym fel Adran yn hynod falch o'i gyflawniadau ac estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog iddo ar dderbyn y wobr."

 

Lewys Aron