Llun o ben yr Athro Kelly Mackintosh.

Mae'r Athro Kelly Mackintosh o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei chydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn ymddygiad llonydd.

Mae'r Athro Mackintosh yn y 0.73 y cant o awduron mwyaf blaenllaw o blith y 39,017 o bobl sydd wedi cyhoeddi deunydd ar y pwnc, sy'n cyfeirio at weithgareddau nad ydynt yn treulio llawer o egni, megis eistedd am gyfnodau hir, yn ôl Expertscape.

Mae Expertscape yn helpu i nodi meddygon, gweithwyr iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr mwyaf gwybodus y byd, gan restru awduron yn wrthrychol yn seiliedig ar ansawdd a chyfanswm eu cyhoeddiadau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Meddai'r Athro Mackintosh: “Mae'n syndod i fi ond rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy amlygu ymhlith yr un y cant o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ym maes ymddygiad llonydd.

“Gwnes i gwblhau fy PhD yn ystod y cyfnod hwn ac roeddwn yn ffodus i gael swydd darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn canolbwyntio ar chwaraeon yn unig ar y pryd.

“Dan arweinyddiaeth ardderchog, rydym wedi datblygu màs critigol yn y gwyddorau ymarfer corff, felly mae'r ffaith bod ein sefydliad wedi cael ei amlygu'n fyd-eang yn gyflawniad anhygoel.”

Mae'r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon yn un o gyflawniadau academaidd niferus yr Athro Mackintosh.

Ers iddi ennill dyfarniad seren ymchwil gyrfa gynnar HEPA (gweithgarwch corfforol sy'n hybu iechyd) Ewrop yn 2016, mae hi wedi ymgymryd â swydd athro yng nghanolfan ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM) Prifysgol Abertawe, ac ar hyn o bryd mae'n arwain ei grŵp ymchwil iechyd, ymarfer corff a meddygaeth.

Hyd yn hyn, mae'r Athro Mackintosh wedi cyhoeddi mwy na 100 o bapurau gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid yn rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar y defnydd o ymagweddau newydd at fesur a hyrwyddo gweithgarwch corfforol a lleihau ymddygiad llonydd, gan gwmpasu hyd oes a statws clefydau, ar lefel poblogaeth.

Yn fwyaf diweddar, ar y cyd â'r Athro Melitta McNarry, mae'r Athro Mackintosh wedi llywio Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS).

Partneriaeth â Chwaraeon Cymru a'r holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw WIPAHS, sy'n dod ag academyddion, y rhai sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol, y rhai sy'n llunio polisïau a'r cyhoedd ynghyd i ystyried y cwestiynau sylfaenol sy'n ymwneud ag iechyd a lles y genedl.

Yn ogystal â bod yn olygydd adran ar gyfer tri chyfnodolyn, yn 2019 roedd yr Athro Mackintosh ar weithgor arbenigol y Prif Swyddog Meddygol, gan helpu i ddiweddaru canllawiau gweithgarwch corfforol y Deyrnas Unedig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd, mae'r Athro Mackintosh yn aelod o bwyllgor arbenigol y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer goruchwylio a Bwrdd Rheoli Strategol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Gweithgarwch Corfforol sy'n Hybu Iechyd.

Meddai'r Athro Mackintosh: “Rwyf wir yn gwerthfawrogi cyfleoedd fel hyn, sy'n fy ngalluogi i helpu i lywio'r ffordd y caiff gweithgarwch corfforol ac iechyd eu hyrwyddo, yn y DU, Ewrop ac ymhellach i ffwrdd.” 

Rhannu'r stori