Dwylo hen ddyn ar ffon gerdded

Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'n chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.

Mae Comisiwn y Senedd wedi comisiynu'r astudiaeth, a arweinir gan Dr Simon Williams, Darlithydd Seicoleg yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.

Mae Dr Williams yn chwilio am oedolion sy'n byw yng Nghymru i gymryd rhan mewn holiadur ar-lein byr y gellir ei gwblhau o fewn oddeutu 5–10 munud. Ar ôl cwblhau'r arolwg, bydd y cyfranogwyr yn cael eu cynnwys mewn raffl, lle bydd un enillydd a ddewisir ar hap yn derbyn iPad Apple.

Bydd angen nifer bach o gyfranogwyr ar yr astudiaeth hefyd i gymryd rhan mewn grŵp ffocws awr o hyd ar y cyd â hyd at bum cyfranogwr arall. Bydd cyfranogwyr yn cael cerdyn rhodd Amazon gwerth £10 am roi o'u hamser. Dylai unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y grŵp ffocws ar-lein e-bostio Dr Simon Williams i gael rhagor o fanylion.

Caiff yr holl ddata a gesglir drwy'r arolwg a'r grŵp ffocws ei storio a'i ddefnyddio'n gyfrinachol, a bydd ymatebion yn aros yn ddienw mewn adroddiadau neu gyhoeddiadau.

Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn a byw yng Nghymru.

Meddai Dr Williams: “Mae argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol yn fater gwleidyddol allweddol.  Mae prinder staff ym maes gofal cymdeithasol yn cyrraedd lefelau enbyd a disgwylir i'r sefyllfa waethygu dros y misoedd nesaf. Rydym am wybod beth yw barn pobl am yr argyfwng a sut dylid mynd i'r afael ag ef.”

Cymeradwywyd yr ymchwil hon gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein.

Rhannu'r stori