Pedwar plentyn yn eistedd yn yr awyr agored ar faes chwarae ac yn gwenu wrth edrych ar eu ffonau

Mae ap newydd wedi cael ei lansio sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc werthuso eu cymunedau a helpu i'w gwella. 

Nawr, mae'r ap newydd RPlace yn galluogi pobl ifanc i glicio ychydig weithiau er mwyn rhannu'r hyn y maent yn ei hoffi – ac yn ei gasáu – am ble maent yn byw, yn chwarae ac yn mynd gyda’u ffrindiau ac i ddweud eu dweud am yr hyn y mae angen ei wella.

Mae'r ap diogel am ddim, a gefnogir gan Chwarae Cymru, wedi cael ei ddatblygu gan y prosiectau ymchwil HAPPEN ac ACTIVE ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r ddau brosiect yn astudio ffyrdd o wella bywydau pobl ifanc.

Mae RPlace yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y broses o fapio eu cymuned drwy ganiatáu iddynt werthuso, argymell, lanlwytho lluniau ac ychwanegu lleoliadau y maent am iddynt gael eu newid.

Ar ôl iddynt lawrlwytho'r ap, byddant yn cael ychwanegu adolygiadau dan chwe chategori gwahanol:
diogelwch;
• gweithgareddau/chwarae;
• mannau gwyrdd;
• cwrdd â ffrindiau;
• llygredd/glendid;
• hygyrchedd.

Yna bydd yr ymchwilwyr yn cyflwyno'r adolygiadau hyn a'r data i gynghorau lleol, yr heddlu ac elusennau, sef cyrff digon pwerus i gymryd camau gweithredu a gwella cymunedau, gan eu gwneud yn fannau mwy diogel a gwell i bobl ifanc chwarae a threulio amser ynddynt.

Mae RPlace hefyd yn bwriadu gweithio gydag elusennau, sefydliadau a busnesau er mwyn helpu i wella gwybodaeth am y ffordd y mae pobl ifanc yn defnyddio mannau. Os yw un o’r categorïau hyn yn berthnasol i chi ac os ydych am gael gwybodaeth well at ddibenion cyllido neu ddatblygu isadeiledd, a wnewch chi anfon e-bost atom a gallwn gydweithio i helpu i fapio’r mannau sydd o ddiddordeb i chi.

Mae RPlace wedi cael ei ddylunio a'i ddatblygu gan Suad Ahmadieh Mena, peiriannydd meddalwedd a raddiodd o Brifysgol Abertawe.

Meddai Suad: “Gwnes i ddylunio'r ap i fod yn gyfrwng digidol cyfarwydd sy'n llawn hwyl ac yn hawdd i bobl ifanc ei ddefnyddio er mwyn mynegi eu barn. Dyma gyfrwng perffaith i bobl ifanc ddweud eu dweud mewn ffordd sy'n addas iddynt a rhannu gwybodaeth am y lleoedd sy'n bwysig ac yn berthnasol iddynt.”

Ychwanegodd Dr Michaela James, prif ymchwilydd RPlace: “Gwnaeth ein gwaith ymchwil blaenorol ddangos bod pobl ifanc am gymryd rhan yn eu cymunedau lleol, ond maent yn teimlo bod prinder cyfleusterau neu fod cyfleusterau'n rhy ddrud. Maent hefyd yn dweud bod gormod o draffig a sbwriel ac nad ydynt yn teimlo'n ddiogel weithiau.

“Roeddem am roi llais iddynt er mwyn newid eu cymunedau lleol a goresgyn y rhwystrau hyn. Gall RPlace helpu i rymuso pobl ifanc ac i gefnogi eu dymuniadau a'u hanghenion. Cyflwynir y data a gesglir i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled Cymru er mwyn helpu i wella diogelwch ardaloedd a dangos yr hyn y mae pobl ifanc yn ei werthfawrogi a'r hyn yr hoffent ei newid.”

Dywedodd Abbie, sy'n 15 oed, fod RPlace yn gyfrwng gwych i bobl ifanc rannu eu teimladau am eu cymunedau.

Meddai: “Mae'r ap yn ddefnyddiol iawn ar gyfer datrys problemau drwy nodi'r mannau lle mae pobl yn defnyddio cyffuriau ac alcohol yn yr ardal. Mae ef hefyd yn helpu i dynnu sylw at elfennau da'r ardal, y rhai y mae angen eu gwella a'r hyn y gellir ei wneud.”

Meddai Lucia, sydd hefyd wedi defnyddio RPlace: “Mae'n llawn hwyl i'w ddefnyddio. Byddwn yn ei ddefnyddio er mwyn tynnu sylw at newid yn yr hinsawdd a chyfeirio at ardaloedd na ddylid ymyrryd ynddynt.” Ychwanegodd Ali: “Mae’n ap gwych ar gyfer rhoi llais i bobl ifanc a gwella cyfleusterau lleol.”

Mae rhwydwaith HAPPEN ac ACTIVE yn rhan o'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ymchwil sy'n cael ei chynnal drwy apiau fel hwn yn hanfodol wrth sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed o ran eu hanghenion iechyd a lles. Mae'r ap RPlace yn ddull gwych a fydd yn llywio ac yn gwella gwasanaethau a mannau ar gyfer plant yng Nghymru."

Mae RPlace ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar ddyfeisiau Android ac Apple.

Ceir rhagor o wybodaeth am RPlace, gan gynnwys sut i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio, drwy fynd i wefan HAPPEN

Rhannu'r stori