O’r chwith i’r dde, Dr Natalie Shenker (chwith), a gyd-sefydlodd Hearts Milk Bank gyda Gillian Weaver (dde), gyda'r Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe.

Mae Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio partneriaeth newydd â'r Human Milk Foundation (HMF) a fydd yn sefydlu cronfa llaeth y fron yng Nghymru am y tro cyntaf. 

Bydd y gronfa yn Ysbyty Singleton yn Abertawe yn galluogi mwy o fabanod sâl a chynamserol yn y rhanbarth i dderbyn llaeth rhoddwr sydd wedi cael ei basteureiddio'n gyntaf ac yn rhoi cyfle i fenywod lleol roi eu llaeth – rhywbeth sydd wedi bod yn amhosib i rai ohonynt yn y gorffennol oherwydd logisteg cludo eu llaeth i gronfeydd yn Lloegr.

Pan gaiff babanod eu geni'n sâl neu'n rhy gynnar, mae cael llaeth eu mam yn helpu i'w diogelu yn erbyn heintiau a allai beryglu eu bywyd ac yn eu helpu i dyfu a datblygu. Fodd bynnag, weithiau ni all y fam ddarparu digon o laeth am resymau iechyd neu oherwydd bod gwneud digon o laeth ar unwaith yn anodd iddi.

Mae llaeth rhoddwr yn berthnasol yn hyn o beth. Mae mamau eraill sy'n bwydo ar y fron ac sy'n creu mwy o laeth na'r hyn y mae ei angen ar eu baban eu hunain yn rhoi'r llaeth i gronfa llaeth ar ôl sgrinio gofalus, gan gynnwys profion gwaed ar gyfer heintiau. Mae'r holl laeth a roddir i gronfa llaeth yn cael ei drin â gwres er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ar gyfer y babanod mwyaf agored i niwed. Yna mae cronfeydd llaeth yn rhewi'r llaeth ac yn ei anfon i ysbytai lle gellir ei ddefnyddio mewn unedau gofal dwys i gefnogi babanod newyddenedigol.

Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb ei chronfa llaeth ei hun. Oherwydd hyn, bu'n rhaid cludo llaeth mewn symiau bach o Loegr ac mae llawer o famau yng Nghymru, yn enwedig yn y de a'r gorllewin, heb gael cyfle i gefnogi teuluoedd eraill drwy roi llaeth. Mae rhoi llaeth yn brofiad gwerthfawr i famau, yn enwedig os yw eu baban eu hunain wedi derbyn llaeth gan roddwr yn y gorffennol.

Bydd y gronfa yn Abertawe'n galluogi llaeth i gael ei brosesu yng Nghronfa Llaeth Hearts, sy'n rhan o’r HMF, i'r gogledd i Lundain. Sefydlwyd Hearts yn 2017 ac erbyn hyn dyma'r gronfa llaeth y fron nid-er-elw fwyaf yn y wlad, gan gefnogi mwy na 40 o ysbytai'r GIG a channoedd o deuluoedd bob blwyddyn. Ar ôl iddo gael ei sgrinio, caiff llaeth y fron gan roddwyr ei gludo yn ôl i Gymru, lle bydd ar gael i ysbytai lleol ei ddefnyddio. Bydd hefyd yn helpu mamau lleol i roi eu llaeth, lle gellir ei storio'n lleol cyn ei gludo i Hearts.

Meddai'r Athro Amy Brown, cyfarwyddwr canolfan ymchwil LIFT (Llaetha, Bwydo Babanod a Throsi) ym Mhrifysgol Abertawe: “Roeddem yn falch o dderbyn cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddiweddar i ddatblygu gwaith LIFT, sydd wedi ein galluogi i sefydlu'r gronfa llaeth. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r HMF a'r bwrdd iechyd er mwyn galluogi mwy o deuluoedd i dderbyn a rhoi llaeth y fron ac i dyfu'r gronfa a'i chyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd i ddod.”

Meddai Dr Natalie Shenker o’r HMF: “Mae pawb yn yr HMF yn ymrwymedig i ddatblygu gwasanaeth gwirioneddol deg, lle gall teuluoedd roi llaeth y fron a chael gafael arno, am ddim lle mae ei angen, ble bynnag maen nhw’n byw. Drwy fuddsoddi yn y gronfa a'r ymchwil i werthuso ei heffaith, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru'n galluogi menter arloesol sy'n wirioneddol gyffrous mewn iechyd amenedigol i fenywod i ddechrau ledled Cymru a'r tu hwnt.”

Meddai Dr Sujoy Banerjee, Arweinydd Clinigol gwasanaethau ar gyfer babanod newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Bydd cronfa llaeth y fron gyntaf Cymru'n amhrisiadwy i ofal babanod newydd-anedig sy'n gynamserol neu’n sâl, gan atal cymhlethdodau a gwella canlyniadau. Bydd yn darparu tegwch a mynediad hawdd at laeth y fron ar gyfer gwasanaethau clinigol yng Nghymru ac yn ei gwneud yn haws i famau sy'n llaetha roi eu llaeth dros ben er lles llawer o fabanod. Mae'r prosiect yn enghraifft wych o fenter gydweithredol gymdeithasol a bydd yn cynyddu ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo bwydo ar y fron yn ein cymunedau. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gynnal y fenter hon.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect a gwaith ymchwil ac arloesi sy'n ymwneud â bwydo babanod a llaeth y fron gan roddwyr drwy fynd i wefan LIFT.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith yr HMF drwy fynd i wefan yr elusen yma.

Rhannu'r stori