Mae’r llun yn dangos melysion lliwgar.

Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bryste ac yn Sefydliad Francis Crick yn Llundain wedi awgrymu y gallai deietau sy'n cynnwys llawer o'r siwgr ffrwctos atal systemau imiwnedd pobl rhag gweithredu'n gywir, mewn ffyrdd a fu, hyd yn hyn, yn anhysbys i raddau helaeth.

Ceir ffrwctos mewn diodydd siwgraidd, melysion a bwydydd wedi'u prosesu ac fe'i defnyddir yn helaeth wrth gynhyrchu bwyd. Fe'i cysylltir â gordewdra, diabetes math 2 a chlefyd yr afu brasterog nad yw'n ymwneud ag alcohol, ac mae ei ddefnydd wedi cynyddu'n sylweddol ledled y byd datblygedig dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, prin y bu'r ddealltwriaeth o effaith ffrwctos ar system imiwnedd pobl sy'n llyncu llawer ohono hyd yn hyn.

Mae'r astudiaeth newydd a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Nature Communications yn dangos bod ffrwctos yn achosi llid yn y system imiwnedd ac mae'r broses honno'n cynhyrchu moleciwlau mwy adweithiol sy'n gysylltiedig â llid. Gall y fath lid fynd rhagddo i niweidio celloedd a meinweoedd a chyfrannu at atal organau a systemau'r corff rhag gweithio fel y dylent. Gallai hynny arwain at glefydau.

Mae'r ymchwil hefyd yn cynnig dealltwriaeth ddyfnach o'r ffordd y gallai ffrwctos fod yn gysylltiedig â diabetes a gordewdra gan fod cysylltiad yn aml rhwng llid ar raddfa fach a gordewdra. Mae hi hefyd yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol sydd ar gael i'r bobl sy'n llunio polisïau iechyd cyhoeddus o effeithiau niweidiol gormod o ffrwctos.

Meddai Dr Nick Jones, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Gall ymchwil i elfennau gwahanol ein deiet ein helpu i ddeall yr hyn a allai gyfrannu at lid a chlefydau, yn ogystal â'r ffyrdd gorau o fynd ati i wella iechyd a lles.”

Meddai Dr Emma Vincent, o Sefydliad Gwyddorau Iechyd Poblogaethau Ysgol Feddygaeth Bryste: “Mae ein hastudiaeth yn gyffrous gan ei bod hi'n mynd â ni gam yn agosach at ddeall pam gall rhai deietau arwain at afiechyd.”

Ariennir y gwaith hwn gan Diabetes UK a Cancer Research UK.

Mwy o wybodaeth am ein hymchwil arloesol ym maes iechyd

Rhannu'r stori