Myfyrwyr parafeddygol yn cael brechiad wrth iddynt i roi cymorth i wasanaethau. Craig Brown, sydd ym mlwyddyn gyntaf y cwrs BSc mewn Gwyddor Barafeddygol, yn cael ei frechiad.

Craig Brown, sydd ym mlwyddyn gyntaf y cwrs BSc mewn Gwyddor Barafeddygol, yn cael ei frechiad.

Mae myfyrwyr parafeddygol Prifysgol Abertawe wedi cael brechiad yn erbyn coronafeirws wrth iddynt barhau i weithio ar reng flaen y GIG. 

Mae'r myfyrwyr yn falch o gael eu diogelu wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n rhoi cymorth i wasanaethau allweddol.

Meddai Sarah Broad, sydd yn ail flwyddyn Diploma Addysg Uwch mewn Gwyddor Barafeddygol: “Ar ôl cludo menyw a oedd yn dioddef yn arw o Covid-19 i Ysbyty Bronglais yr wythnos hon, roeddwn yn teimlo'n llawer hapusach yn treulio awr yn ei thrin yn yr ambiwlans, a hynny'n gorfforol agos ati, gan wybod fy mod wedi cael brechiad.

“Roedd yn teimlo fel bod gennyf haen arall o gyfarpar diogelu personol!”

Ychwanegodd Josephine McCarthy, sydd ym mlwyddyn gyntaf y cwrs BSc mewn Gwyddor Barafeddygol: “Mae cael brechiad yn ein galluogi i gadw pobl eraill yn ogystal â ni ein hunain yn ddiogel. Ar hyn o bryd, mae pob peth bach yn helpu.”

Meddai Nikki Williams, arweinydd y tîm astudiaethau parafeddygol: “Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym bartneriaeth agos â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi cael ei hatgyfnerthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Drwy gydol y pandemig, mae ein myfyrwyr wedi gallu parhau â'u haddysg a'u hyfforddiant, yn enwedig eu lleoliadau gwaith clinigol.

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi sicrhau bod pob un o'r myfyrwyr wedi cael y cyfarpar diogelu personol i'w diogelu hwy, eu cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a'u gofalwyr.

“Rhoi brechiad i'n myfyrwyr yw'r cam nesaf yn y broses glodwiw hon ac mae'n dangos rôl allweddol myfyrwyr wrth gyflwyno gofal yn ystod eu hyfforddiant.”

Meddai Mel De Castro-Pugh, sydd yn ail flwyddyn Diploma Addysg Uwch mewn Gwyddor Barafeddygol: “Mae gennyf gyflwr iechyd isorweddol, felly mae cael brechiad – ochr yn ochr â defnyddio'r cyfarpar diogelu personol priodol – wedi tawelu fy meddwl wrth weithio gyda chleifion sy'n dioddef o Covid-19.

“O'r diwedd, rwy'n gallu gweld goleuni ym mhen draw'r twnnel – mae angen i ni sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn cael brechiad.”

Meddai arweinydd brechiadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jo Kelso: “Fel ymddiriedolaeth, rydym wedi bod yn falch o groesawu ein myfyrwyr parafeddygol i ymuno â ni'n uniongyrchol yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn ac rydym wedi rhoi'r cyfle iddynt gael brechiad ochr yn ochr â'u cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru sy'n dod i gysylltiad â chleifion, ein gwirfoddolwyr a'r is-gontractwyr sy'n bartneriaid i ni.

“Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr bod ein cydweithwyr yn y bwrdd iechyd wedi cynnwys myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn eu clinigau brechu torfol.”

Mae myfyrwyr parafeddygol wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr cymwysedig drwy gydol y pandemig. Yn ôl ym mis Mawrth, cofrestrodd 101 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a rhoi cymorth i'r gwasanaethau cludo cleifion arfaethedig mewn achosion nad oeddent yn frys nac yn gritigol, gan ryddhau parafeddygon cymwysedig i wneud dyletswyddau mwy brys.

Mwy o wybodaeth am ein cwrs Gwyddor Barafeddygol

Rhannu'r stori