Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar y berthynas rhwng hyd mynegfys a bys modrwy unigolyn, a adwaenir fel y gymhareb 2D:4D.

Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar y berthynas rhwng hyd mynegfys a bys modrwy unigolyn, a adwaenir fel y gymhareb 2D:4D.

Mae mamau sy'n ennill incwm isel yn benyweiddio eu plant yn y groth drwy addasu eu hormonau, ond mae mamau sy'n ennill incwm uchel yn gwryweiddio eu plant, yn ôl astudiaeth fawr sy'n seiliedig ar hyd bysedd, dan arweiniad arbenigwr o Brifysgol Abertawe.

Mae'r ffenomen yn ymateb esblygiadol anymwybodol sy'n ceisio hybu cyfleoedd eu plant i atgenhedlu'n llwyddiannus.

Mae'n helpu, yn rhannol, i esbonio cysylltiadau rhwng incwm isel, lefelau isel o destosteron cyn geni, a rhai o brif achosion marwoldeb megis clefydau cardiofasgwlaidd.

Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar y berthynas rhwng hyd mynegfys a bys modrwy unigolyn, a adwaenir fel y gymhareb 2D:4D. Mae bys modrwy hwy yn arwydd o lefelau uwch o destosteron; mae mynegfys hwy yn arwydd o lefelau uwch o estrogen. Yn gyffredinol, mae gan ddynion fysedd modrwy hwy, ac mae gan fenywod fynegfysedd hwy.

Mae'r gymhareb 2D:4D yn fesurydd sydd wedi bod yn destun dadleuon helaeth a mwy na 1,000 o astudiaethau, ond yr hyn sy'n arwyddocaol am yr adroddiad newydd yw bod y tîm wedi archwilio'r gymhareb mewn perthynas ag incwm rhieni.

Dan arweiniad yr Athro John Manning o Brifysgol Abertawe, gyda chydweithwyr yn Awstria a Jamaica, aeth y tîm ati i brofi damcaniaeth am ddylanwadau esblygiadol ar y fam a'i phlant. Mae'r ddamcaniaeth yn awgrymu bod meibion mamau sy'n ennill incwm uwch yn atgenhedlu'n fwy llwyddiannus na merched y mamau hynny. Ar y llaw arall, bydd merched mamau sy'n ennill incwm llai yn atgenhedlu'n fwy llwyddiannus. Dyma ddamcaniaeth Trivers-Willard ac roedd ei phrif awdur, yr Athro Robert Trivers, hefyd yn rhan o'r astudiaeth newydd hon.

Defnyddiodd y tîm ddata o fwy na 250,000 o bobl mewn oddeutu 200 o wledydd, a oedd yn cymryd rhan mewn arolwg ar-lein i'r BBC. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr fesur eu mynegfysedd a'u bysedd modrwy a rhoddwyd cyfarwyddiadau iddynt ynghylch sut i wneud hyn yn gywir. Gofynnwyd iddynt hefyd nodi lefel incwm eu rhieni.

Roedd y canlyniadau'n dangos y canlynol:

· Roedd cymhareb 2D:4D isel yn achos plant rhieni a oedd yn ennill incwm mwy na'r cyffredin, ac roedd ganddynt fysedd modrwy hwy, sy'n arwydd o destosteron uchel ac estrogen isel cyn geni, nodweddion ffetws mwy gwrywaidd

· Ar y llaw arall, roedd cymhareb 2D:4D uchel yn achos plant rhieni a oedd yn ennill incwm llai na'r cyffredin, ac roedd ganddynt fynegfysedd hwy, sy'n arwydd o destosteron is ac estrogen uwch cyn geni, nodweddion ffetws mwy benywaidd

· Roedd yr effeithiau hyn yn bresennol yn achos dynion a menywod

Meddai prif ymchwilydd yr astudiaeth, yr Athro John Manning o dîm ymchwil A-STEM mewn gwyddor chwaraeon Prifysgol Abertawe:

“Roedd ein canlyniadau'n dangos ei bod hi'n bosib bod mamau sy'n ennill incwm uchel yn secretu lefelau uwch o destosteron nag estrogen yn gynnar yn eu beichiogrwydd, gan wryweiddio eu plant gwrywaidd a benywaidd. Ar y llaw arall, mae'n bosib bod menywod sy'n ennill incwm isel yn secretu lefelau isel o destosteron, a fydd yn benyweiddio eu plant gwrywaidd a benywaidd.

Dyma ymateb esblygiadol na fydd mamau'n ymwybodol ohono, heb sôn am feddu ar y gallu i'w reoli. Ei nod yw rhoi'r cyfle gorau i'w plant atgenhedlu'n llwyddiannus.

Yn achos mamau sy'n ennill incwm uchel, mae manteision testosteron uchel i'w meibion yn debygol o fod yn drech na'r anfanteision i'w merched. Yn achos mamau sy'n ennill incwm isel, mae'r manteision i'w merched o fod yn fwy benywaidd yn debygol o fod yn drech na'r anfanteision i'w meibion.

Mae'r patrwm hwn yn gyson â damcaniaeth Trivers-Willard.”

Esboniodd yr Athro Manning sut gallai'r canfyddiadau daflu goleuni ar y tueddiad i gael clefyd:

“Mae'r patrymau hyn yn awgrymu bod effeithiau pwysig ar iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â thlodi.

Mae'n bosib y bydd testosteron isel ac estrogen uchel mewn ffetysau gwrywaidd yn gwneud y dynion hynny, fel oedolion, yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau sy'n gysylltiedig â thlodi megis trawiadau ar y galon, strociau a phwysedd gwaed uchel.

Mae'n adnabyddus bod cysylltiad agos rhwng tlodi ac afiechyd. Yr hyn y mae ein gwaith ymchwil yn ei awgrymu yw y gall y cysylltiad hwn barhau o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Mae'r astudiaeth ar gael yn Journal of Biosocial Sciences, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff

Arloesi ym maes iechyd - ymchwil Abertawe

 

Rhannu'r stori