Arbenigwyr yn cydweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein

Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y frwydr yn erbyn camfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein ar ôl cael cyllid sylweddol am brosiect arloesol newydd sy'n canolbwyntio ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein. 

Bydd Prosiect DRAGON-S (Gwrthsefyll Perthnasoedd Amhriodol Ar-lein – Nodi a Gwarchod), a fydd yn para am ddwy flynedd, yn defnyddio arbenigwyr i ddatblygu adnoddau ieithyddol a deallusrwydd artiffisial er mwyn helpu i nodi achosion o berthnasoedd amhriodol ar-lein. Bydd y prosiect hwn yn cael cymorth ariannol cronfa End Violence, sydd wedi buddsoddi $44m mewn 52 o brosiectau i geisio atal pobl rhag cael eu cam-drin yn rhywiol ar-lein ledled y byd.

Bydd y prosiect hefyd yn rhannu gwybodaeth arbenigol drwy borth dysgu a sgwrsfot er mwyn atgyfnerthu gallu gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu plant i warchod plant rhag bod yn destun perthynas amhriodol ar-lein.

Mae'r Athro Nuria Lorenzo-Dus o Brifysgol Abertawe yn arwain y prosiect ar y cyd â Dr Adeline Paiement o Brifysgol Toulon. Byddant yn cydweithio â phartneriaid y prosiect – gan gynnwys Cangen Cadernid Digidol mewn Addysg Hwb Llywodraeth Cymru; Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru; a sefydliadau'r trydydd sector yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau yn ogystal ag yng Nghymru a'r DU.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, amcangyfrifir bod 750,000 o unigolion yn ceisio paratoi plant i bwrpas rhyw ar unrhyw adeg benodol. Mae adroddiadau am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn tyfu'n gyflymach ac yn gyflymach – cafwyd 40 y cant o'r 23.4 miliwn o adroddiadau am ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn 2017 yn unig.

Meddai'r Athro Lorenzo-Dus: “Mae pobl sy'n mynd ati i feithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein yn defnyddio iaith i ddenu dioddefwyr. Maent yn defnyddio dulliau cyfathrebu er mwyn meithrin a bradychu ymddiriedaeth plant, gan fanteisio ar eu cymdeithasgarwch, eu caredigrwydd a'u chwilfrydedd. Rhaid rhoi terfyn ar y math hwn o gamfanteisio a cham-drin.

“Bydd DRAGON-S yn galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu plant i nodi tactegau ieithyddol troseddwyr a gwella eu dulliau atal.”

Mae'r prosiect newydd hwn yn adeiladu ar arbenigedd Abertawe o ran dod o hyd i atebion ymchwil ieithyddol a deallusrwydd artiffisial integredig sydd eisoes yn helpu i amddiffyn plant, ar-lein ac all-lein.

Bydd hefyd yn manteisio ar ddoniau ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, yn ogystal ag academyddion o bob rhan o'r Brifysgol.

Ychwanegodd yr Athro Lorenzo-Dus: “Dyma bartneriaeth ryngddisgyblaethol go iawn. Yr hyn sy'n ein huno yw ein hymrwymiad brwd i atal pobl rhag meithrin perthnasoedd rhywiol â phlant ar-lein, drwy ymchwil arloesol a chydweithio.”

Mae Prosiect DRAGON-S wedi cael cyllid gwerth mwy na $500,000 drwy gronfa End Violence, sy'n cefnogi prosiectau ac unigolion ledled y byd.

Ychwanegodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi: “Mae Prosiect DRAGON-S yn cyfleu tri o werthoedd ymchwil allweddol Prifysgol Abertawe – cyfuno disgyblaethau, cael effaith gymdeithasol a sicrhau dylanwad byd-eang.

“Bydd ymdrechion yr Athro Lorenzo-Dus a'i thîm yn gwneud cyfraniad pwysig at warchod plant sy'n agored i niwed rhag bod yn destun perthynas amhriodol ar-lein.”

Mae Prifysgol Abertawe'n ddiolchgar i gronfa End Violence am roi cymorth ariannol i'r rhaglen hon.

Darllenwch fwy am yr Athro Lorenzo-Dus a Phrosiect DRAGON-S

Rhannu'r stori