Arbenigwr yn profi dull newydd o arsylwi plant yn chwarae

Mae astudiaeth o’r camau y mae plant yn mynd drwyddynt wrth iddynt gyd chwarae yn cael eu hamlygu mewn ymchwil newydd gan academydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae chwarae yn rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn. Dyma sut mae plant yn datblygu sgiliau gwybyddol ac yn dysgu gwybodaeth newydd yn ogystal â sgiliau cymdeithasol ac mae’n destun pwysig ymchwil gan wyddonwyr cymdeithasol.

Fe wnaeth Dr Pete King, sy’n arbenigo mewn astudiaethau chwarae a phlentyndod, ddyfeisio dull o astudio'r broses o chwarae plant - sef Play Cycle Observation Method (PCOM) - a bellach cyhoeddodd ymchwil sy’n dangos pa mor effeithiol ydyw fel teclyn arsylwadol.

Gan gydweithio gyda’r Athro LaDonna Atkins a Dr Brandon Burr, fe wnaeth ei astudiaeth ddiweddaraf profi’r PCOM mewn amser go iawn gan wylio plant tair blwydd oed yn chwarae gan ddefnyddio bwth arsylwadol Canolfan Astudiaeth Plant ym Mhrifysgol Central Oklahoma.

Dywedodd Dr King, uwch ddarlithydd yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Ffocysau’r PCOM ar y broses o chwarae ac yn y man cychwyn cafodd ei beilota gan ddefnyddio fideo o blant yn chwarae. Roeddwn yn gallu dangos ei bod yn gallu cael ei ddefnyddio’n effeithiol yn y sefyllfa honno, ble mae’r arsyllwr yn gallu cael saib neu ailddirwyn i gymryd golwg mwy manwl ar weithgareddau’r plant.

“Er hynny nid yw hyn yn opsiwn wrth arsylwi ar blant mewn amser go iawn, felly pa mor ddibynadwy byddai’r PCOM yn yr amgylchiadau hynny? Defnyddiwyd y cwestiwn hwn fel sail ar gyfer ein papur ymchwil.”

Esboniodd bod y PCOM yn ffocysu ar y broses o chwarae a’r Cylch Chwarae, y term a ddefnyddir gan bobl broffesiynol chwarae i arsylwi a deall chwarae. Gellir rhannu’r cylch yn sawl rhan benodol - cyn -ciw, ciw chwarae, dychweliad i chwarae, ffrâm chwarae, llif a dilead.

Mae’r ciw chwarae, naill ai’n eiriol neu’n ddieiriau, yn wahoddiad i chwarae gan blentyn pan mai’r dychweliad i chwarae yn ymateb gan blentyn arall. Y ffrâm chwarae yw’r ffin gorfforol neu ddychmygol sy’n cadw’r Cylch Chwarae’n gyflawn a dilead pan ddaw’r chwarae i ben.

Ar gyfer yr astudiaeth hon, fe wnaeth dau aelod o’r tîm ymchwil gymryd rhan arsylwyr annibynnol heb unrhyw brofiad o ddefnyddio PCOM. Fe wnaethant wylio’r chwarae o’r bwth gan ddefnyddio taflenni arsylwi wedi eu cynllunio’n benodol i gofnodi ciwiau chwarae’n fesurol, dychweliadau chwarae a Chylchoedd Chwarae. Fe wnaeth y taflenni hyn hefyd gasglu data ansoddol o fframiau chwarae, dilead a’r rôl a chwaraewyd gan oedolion yn y Cylch Chwarae.

Fe wnaeth yr arsylwyr wylio'r un ‘plentyn targed’ ar yr un amser, pob un yn gwneud eu harsylwadau ar yr un pryd, heb unrhyw drafodaeth neu gymhariaeth. Cafodd hwn ei ailadrodd ar gyfer 11 arsylwad ar wahân o wahanol blant. Yna casglwyd y data a’i ddadansoddi gan drydydd aelod o’r tîm.

Cyhoeddwyd eu darganfyddiadau yn y Journal of Early Childhood Research.

Meddai Dr King: “Fe wnaethom brofi wrth ffocysu ar y broses o chwarae, bod y PCOM yn ganolog i’r plentyn ac yn declyn a arweinir gan blentyn. Nid yw wedi ei gyfyngu i fath o chwarae megis honiad neu gymdeithasol, felly mae’n cynnig y cyfle i arsylwi pob math o chwarae.

“Budd y PCOM yw nad ydyw dim ond yn dangos sut y gallwn gefnogi’r amrywiol camau plant yn chwarae, ond gall hefyd ei ddefnyddio gan y myfyriwr sy’n dysgu am chwarae a’r ymarferwr proffesiynol ynghylch yr ymarfer adlewyrchol. Yn ychwanegol, mae’r PCOM yn declyn hyfforddi defnyddiol ar gyfer hyfforddwyr a darlithwyr sy’n addysgu chwarae.”

Rhannu'r stori