Mae’r llun yn dangos rhagfynegiadau model ynghylch y tebygolrwydd y ceir cregyn gleision rhesog, a addaswyd o waith Rodriguez-Rey et al (2021).

Mae’r llun yn dangos rhagfynegiadau model ynghylch y tebygolrwydd y ceir cregyn gleision rhesog, a addaswyd o waith Rodriguez-Rey et al (2021). 

Yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe, mae rampiau cychod yn helpu cregyn gleision rhesog (Dreissena polymorpha) hynod ymledol i fynd ar led. Er mwyn atal y rhywogaeth hon rhag ymledu, mae Dr Marta Rodriguez-Rey a'i chyd-awduron yn awgrymu yn yr astudiaeth newydd y dylid rhoi mesurau rheoli llym ar waith a monitro rampiau cychod penodol.

Mae cregyn deuglawr ymledol yn broblem gan y gallant achosi niwed helaeth i'r amgylchedd, ac mae wedi profi'n anodd cael gwared arnynt. Mae cregyn gleision rhesog yn un o'r cregyn deuglawr mwyaf ymledol – mae'n atgynhyrchu'n gyflym, yn ymledu’n eang ac yn niweidio'r economi. Ym Mhrydain Fawr, collir £5 miliwn bob blwyddyn oherwydd bod cregyn gleision rhesog yn difrodi isadeileddau dŵr ac yn achosi i bibellau lenwi. 

Yn yr astudiaeth hon, archwiliodd y tîm ymchwil ddosbarthiad cregyn gleisiog rhesog ym Mhrydain Fawr, gan ddefnyddio model i greu mapiau a all broffwydo patrymau ymledu yn y dyfodol. Mae'r model yn dangos mai agosrwydd at rampiau cychod yw'r ffordd orau o broffwydo dosbarthiad y cregyn gleision, sy'n fwy tebygol o fod yn bresennol o fewn 3km i fyny'r afon i rampiau cychod. 

Meddai Dr Rodriguez-Rey: “Gan ddefnyddio'r mapiau hyn, gwelsom fod perygl difrifol y bydd cregyn gleision rhesog yn heidio i lawer o ardaloedd yn y rhan fwyaf o ddalgylchoedd lle nad ydynt yn bresennol ar hyn o bryd. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod y rhywogaeth hon o gregyn gleision eisoes wedi cyrraedd rhai ardaloedd yn afon Tafwys, ond nid pob ardal, a dylid gwneud gwaith monitro ac atal yn y parthau rhydd hyn.

Rhannu'r stori