Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Ymchwilydd yn cael cydnabyddiaeth am geisio atebion cynaliadwy

Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith ym maes datgarboneiddio diwydiannol. 

Dr Waqas Hassan Tanveer oedd yr ymchwilydd cyntaf i ennill gwobr uchel ei bri IUVSTA-EBARA am ddod o hyd i atebion cynaliadwy drwy ddefnyddio technolegau gwactod.

Mae'n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni'r Brifysgol erbyn hyn, ond cafodd ei gydnabod am ei gyfraniad at astudio'r defnydd o belenni coed i greu tanwydd jet carbon isel a amlygwyd yng nghylchlythyr diweddaraf yr Undeb Gwyddoniaeth, Technegau a Defnyddiau Gwactod Rhyngwladol (IUVSTA).

Ymunodd Dr Waqas â'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni y llynedd fel ymchwilydd gyda phrosiect SUSTAIN, a arweinir gan Brifysgol Abertawe ac sy'n ceisio trawsnewid sector dur y DU yn ddiwydiant carbon niwtral, diwastraff, digidol ystwyth sy'n ymateb i anghenion newidiol cwsmeriaid.

Dywedodd fod y prosiect wedi mynd â'i fryd gan ei fod yn ymdrin â datblygu a lleihau ôl troed carbon un o'r sylweddau mwyaf allweddol i isadeiledd y gymdeithas fodern.

“Gan fy mod yn beiriannydd mecanyddol, rwyf wedi cael y cyfle i gyfrannu at waith cynhyrchu a chynnal a chadw ffatrïoedd diwydiannol amrywiol sy'n datblygu cerbydau aerodynamig, ac mae angen dur ar ryw ffurf ar y rhan fwyaf ohonynt.”

Ychwanegodd Dr Waqas: “Mae fy ngwaith yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn canolbwyntio ar wneud defnydd electrocemegol o'r carbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau wrth i ddur gael ei gynhyrchu a'i drawsnewid yn gynhyrchion gwerth ychwanegol. Rwy'n gwneud hyn drwy ddatblygu peiriannau electroleiddio sy'n barod at ddefnydd prawf mewn ffatrïoedd.

“Rwyf wedi bod yn gweithio ar y systemau hyn ers oddeutu 11 o flynyddoedd erbyn hyn ac rwy'n ffyddiog y gall y dechnoleg weithredu fel dalfa garbon i ddiwydiannau yn yr isadeiledd presennol.”

Dywedodd Dr Enrico Andreoli, athro cysylltiol yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, fod y tîm yn falch o allu elwa ar brofiad Dr Tanveer.

Meddai: “Rydym yn falch bod ymchwilydd o ansawdd Waqas wedi ymuno â'r tîm. Mae ei gydnabyddiaeth glodfawr a'i ffydd yn y defnydd o garbon yn cyd-fynd yn berffaith â'n gweledigaeth am ddiwydiant wedi'i ddatgarboneiddio sy'n seiliedig ar dechnoleg.”

Mwy o wybodaeth am y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni a'i waith

Rhannu'r stori