Adeiladu'r bont i ddyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel
Mae ESRI mewn sefyllfa dda i gyflawni'r nod drwy ddarganfod technoleg newydd a'i rhoi ar waith i greu dyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel. Defnyddir y term ynni yng nghyd-destun eang diogelwch cyflenwad, cynaliadwyedd hirdymor a diogelwch gweithredol.
Lleolir ESRI ar Gampws y Bae newydd o'r radd flaenaf Prifysgol Abertawe. Mae ESRI yn darparu amgylchedd eithriadol ar gyfer cyflawni ymchwil arloesol ar draws disgyblaethau sy'n ymwneud ag ynni a diogelwch ynni, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Creu ynni newydd o ynni ac adnoddau gwastraff - troi ynni dros ben a gwastraff yn ynni newydd drwy amrywiaeth o drawsnewidiadau fectorau ynni (gwres i drydan a thrydan i hydrogen), gan ddarparu hyblygrwydd o ran galw a chyflenwad.
- Hydrocarbon gwyrdd - lleihau effaith amgylcheddol ffynonellau ynni hydrocarbon drwy ddulliau cynhyrchu gwell, defnyddio llai o adnoddau a sicrhau effaith isel ar yr amgylchedd o gynhyrchu.
- Carbon deuocsid - diffinio ffyrdd effeithlon o’i wahanu, ei droi'n ddeunydd tanwydd crai, a ffyrdd diogel o atafaelu CO2 yn y tymor hir.
- Y genhedlaeth nesaf o systemau dosbarthu ynni - creu rhyngrwyd o ynni i ganiatáu cynhyrchu'n lleol a rhannu'n fyd-eang sy'n golygu bod gan bawb y potensial i fod yn rhan o gynllun ynni un byd.