Menyw yn dal prawf Covid-19

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu comisiynu gan y Senedd i archwilio profiadau pobl o gael gwybod gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu fod yn rhaid iddynt hunanynysu.

Mae'r prosiect am archwilio rhai o'r prif heriau a rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, yn ogystal â rhai o'r pethau sy'n helpu pobl i ymdopi â hunanynysu ac i gydymffurfio ag ef.

Mae'r astudiaeth yn chwilio am bobl i gwblhau holiadur ar-lein pum munud dienw ar eu profiadau o glywed gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod y cyfranogwyr:

  • Yn byw yng Nghymru.
  • Yn 18 oed neu'n hŷn.
  • Wedi cael gwybod gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn ystod y pandemig fod yn rhaid iddynt hunanynysu (naill ai oherwydd eu bod wedi cael prawf positif am Covid-19, neu oherwydd eu bod wedi cael gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun a oedd wedi cael prawf positif am Covid-19).

Caiff adroddiad a fydd yn amlinellu canfyddiadau'r ymchwil ei gyflwyno i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd, ac i Lywodraeth Cymru fel y bo'n briodol, yn ogystal â'i gyhoeddi ar wefan y Senedd.

Mae tîm prosiect Prifysgol Abertawe yn cynnwys Dr Simon Williams a Dr Paul White o Ganolfan Pobl a Sefydliadau'r Ysgol Reolaeth, a Dr Kimberly Dienes o Adran Seicoleg Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Meddai Dr Williams: “Mae'r dystiolaeth ymchwil yn brin o brofiadau aelodau o'r cyhoedd sydd wedi clywed gan staff olrhain cysylltiadau ac sydd wedi cael cyngor ganddynt. Gall y profiadau hyn – gan gynnwys unrhyw heriau a rhwystrau canfyddedig i dderbyn a deall y cyngor, a gweithredu arno – helpu i lywio a gwella'r gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol.” 

Meddai Dr Dienes: “Rydym yn archwilio amrywiaeth o ffactorau a allai effeithio ar allu pobl i ddilyn canllawiau ynghylch hunanynysu, gan gynnwys cyfyngiadau ariannol, yn enwedig i'r rhai sydd heb incwm sefydlog, ac effeithiau niweidiol hunanynysu ar iechyd meddwl, yn enwedig yn achos y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain.”

Mae'r gwaith ymchwil hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe.

Cwblhewch yr holiadur.

Rhannu'r stori