Yr Athro Gert Aarts (yn y tu blaen ar y dde) a myfyrwyr yn ystod y Rhaglen Hyfforddi Doethurol a gyd-drefnwyd ganddo yn ECT* mewn llun a dynnwyd yn 2018.

Yr Athro Gert Aarts (yn y tu blaen ar y dde) a myfyrwyr yn ystod y Rhaglen Hyfforddi Doethurol a gyd-drefnwyd ganddo yn ECT* mewn llun a dynnwyd yn 2018.

Mae'r Athro Gert Aarts FLSW, o Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe, wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Interim Canolfan Ewrop ar gyfer Astudiaethau Damcaniaethol mewn Ffiseg Niwclear a Meysydd Cysylltiedig (ECT*)

Sylfaenwyd ECT* ym 1993 i fod yn ganolfan ymchwil flaenllaw i ffiseg niwclear ddamcaniaethol, er mwyn hyrwyddo cysylltiadau gweithredol rhwng damcaniaethau, arbrofion a meysydd ymchwil cysylltiedig, a hwyluso hyfforddiant ymchwilwyr ifanc.

Mae ECT wedi'i lleoli yn adeilad Villa Tambosi yn Trento yn yr Eidal ac mae'n adnabyddus am gynnal rhaglen gynhwysfawr o weithdai rhyngwladol, cyfarfodydd cydweithredu a rhaglenni hyfforddi doethurol. Ar ben hynny, mae'n cynnig cymrodoriaethau gwadd i ymchwilwyr iau a phrofiadol ac yn cynnal rhaglen ymchwil leol drylwyr sy'n cynnwys ymchwilwyr parhaol a dros dro.

Meddai'r Athro Aarts, sydd hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Gwyddonol ECT* ers tair blynedd: “Mae'n fraint derbyn rôl y Cyfarwyddwr Interim. Yn yr un modd â phopeth arall, mae COVID wedi effeithio ar y rhaglen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, un o'r prif dasgau yw cynnal ac atgyfnerthu'r gweithgareddau gwyddonol rhyngwladol. Rydym hefyd yn gweithio'n galed i gryfhau'r cysylltiad â'r gymuned ymchwil, a fydd yn arwain at weithgareddau ymchwilio rhyngddisgyblaethol ychwanegol yn Trento, er enghraifft, gan gysylltu ffiseg niwclear â thechnoleg cwantwm.”

Fel cyfleuster trawswladol a gymeradwyir gan Gyd-bwyllgor Cydweithredu Ewrop ym Maes Ffiseg Niwclear (NuPECC), mae ECT* yn cael cymorth cyllid gan gynghorau ymchwil Ewropeaidd, gan gynnwys y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) yn y DU, yn ogystal â rhaglenni'r Undeb Ewropeaidd. Ers 2008, mae wedi gweithredu fel canolfan annibynnol dan awdurdod gweinyddol Fondazione Bruno Kessler (FBK).

Rhannu'r stori