Astudiaeth sy'n ymchwilio i alcohol yn cael grant gan elusen

Mae prosiect o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid i ymchwilio i'r defnydd o alcohol gan bobl o gefndiroedd sipsiwn, Roma a theithwyr. 

Roedd prosiect y tîm o Abertawe'n un o bedwar a ddewiswyd i gael cymorth dan raglen grantiau New Horizons yr elusen Alcohol UK, sy'n cefnogi ymchwil academaidd i feithrin dealltwriaeth well o grwpiau, cymunedau ac effeithiau niweidiol alcohol.

Bydd yr astudiaeth – Telling our own stories: an exploratory study of alcohol use and harm by people who identify as Roma, Gypsies and Travellers – yn cael cyllid o fis Ebrill 2021.

Meddai Louise Condon, Athro Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Mae'r prosiect hwn yn bwysig gan fod sipsiwn a theithwyr ymhlith y lleiafrifoedd ethnig mwyaf sefydlog yn y DU sy'n wynebu gwahaniaethu, ond hwy sy'n dioddef fwyaf o safbwynt iechyd.

“Bydd ymchwilwyr cymheiriaid yn gweithio gyda'r tîm ymchwil academaidd i ddechrau'r broses o archwilio arferion diwylliannol o ran yfed alcohol a bydd astudiaethau digidol wedi'u recordio yn cynnig adnodd i lywio'r gwaith o hyrwyddo iechyd.”

Bydd yr Athro Condon yn gweithio ochr yn ochr â Dr Filiz Celik, tiwtor seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a seicotherapydd systemig a theuluol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; yr ymchwilydd iechyd cyhoeddus a'r myfyriwr PhD Suzannah Hargreaves o Brifysgol Salford; a'r gweithiwr eirioli sipsiwn, Roma a theithwyr Sam Worrall.

Ffurfiwyd Alcohol Change UK drwy uno Alcohol Concern ac Alcohol Research UK. Dewiswyd thema grwpiau, cymunedau ac effeithiau niweidiol alcohol ar gyfer ceisiadau am grantiau ymchwil gan y crybwyllir diwylliant, hunaniaeth ac ystyr yn aml mewn trafodaethau sy'n ymwneud ag yfed alcohol.

Y canlynol yw'r prosiectau eraill sydd wedi llwyddo i gael cyllid:

  • Supporting solutions for South Asian women: Developing models for substance use support, a fydd yn archwilio sut mae diwylliant, crefydd a rhywedd yn helpu neu'n atal menywod rhag cael gafael ar gymorth, yn ogystal â safbwyntiau ymarferwyr ar y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd;
  • Exploring communities of belonging around drink, a fydd yn archwilio sut mae alcohol yn effeithio ar brofiad pobl sy'n perthyn i grwpiau ymylol yng ngogledd Lloegr. Bydd yr ymchwilwyr yn gweithio gyda phobl LGBT+, pobl â'u gwreiddiau yn Ne Asia, a chymunedau o Ddwyrain Ewrop mewn lleoliadau gwledig a threfol;
  • Understanding the association between mental health and alcohol use in Black, Asian and Minority ethnic groups, a fydd yn ystyried patrymau yfed a chymhellion pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig â phroblemau iechyd meddwl.

Yn ôl yr elusen, mae'r rhaglen New Horizons yn ceisio cyflwyno gwaith ymchwil gwahanol a blaengar sy'n edrych tuag at y dyfodol.

Ei nod yw creu effaith drwy fynd ati i helpu'r timau ymchwil i rannu eu canlyniadau â phobl a all ymateb iddynt drwy weithredu ar y canfyddiadau a newid polisïau neu arferion. Bydd hefyd yn galluogi timau ymchwil i gydweithio i rannu syniadau, llywio ymchwil ei gilydd a churadu allbwn ar draws y rhaglen, gan ddod â themâu a dysgu cyffredin ynghyd.

Rhannu'r stori