Arbenigwyr yn galw am ymagwedd fwy pragmataidd at addysgu ym maes addysg uwch

Gallai miliynau o fyfyrwyr ledled y byd fod ar eu hennill pe bai eu haddysgwyr yn mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg ac ymarferol, yn ôl arbenigwyr o Brifysgol Abertawe. 

Ar ôl dadansoddi'r technegau a ddefnyddir ar hyn o bryd ym maes addysg uwch, mae'r ymchwilwyr yn galw am ymagwedd bragmataidd sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Meddai'r Athro Phil Newton, cyfarwyddwr dysgu ac addysgu Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Rydym yn defnyddio addysg uwch er mwyn hyfforddi'r bobl sy'n ymgymryd â rolau proffesiynol pwysig yn ein cymdeithas. Erbyn hyn, mae mwy na 200 miliwn o fyfyrwyr addysg uwch ledled y byd ac mae'n debygol y bydd y cyfanswm yn dyblu eto dros y degawd nesaf.

“O ystyried maint, effaith, pwysigrwydd a chost addysg uwch, byddai'n rhesymol rhagdybio bod y polisïau a'r arferion gorau posib ar waith, yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Fodd bynnag, mae'n ymddangos nad yw hyn yn wir.”

Mewn papur newydd, mae'r Athro Newton, Dr Ana Da Silva a Sam Berry yn dadlau na ddefnyddir canfyddiadau ymchwil i addysg uwch er mwyn datblygu a gwella arferion addysgol.

Maent yn dweud bod arferion aneffeithiol, megis Dulliau Dysgu, yn parhau, bod adborth goddrychol a rhagfarnllyd o bosib yn cael ei ddefnyddio er mwyn mesur ansawdd addysgu a pherfformiad athrawon, a bod mynediad addysgwyr mewn prifysgolion at ddatblygiad proffesiynol yn gyfyngedig.

Felly, mae'r academyddion yn cynnig model pragmataidd o addysg uwch sy'n seiliedig ar dystiolaeth a allai, yn eu barn hwy, gyflawni canlyniadau sy'n amlwg yn fwy defnyddiol, gan ganolbwyntio ar sgiliau addysgu ymarferol. 

Ychwanegodd yr Athro Newton: “Darperir y model at ddefnydd addysgwyr a phobl sy'n llunio polisïau, er mwyn eu helpu i fanteisio i'r eithaf ar dystiolaeth yr ymchwil i addysg sydd eisoes ar gael wrth wneud penderfyniadau cyd-destunol ynghylch arferion lleol.

“Gall dysgwyr ddefnyddio'r model wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu hastudiaethau, a gellir ei ddefnyddio hefyd er mwyn addysgu sgiliau astudio i ddysgwyr.”

Amlinellir y model a sut gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau addysg yn eu gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Frontiers in Education.

Fodd bynnag, maent yn datgan y byddai'n rhaid adolygu unrhyw benderfyniadau a wneir drwy ddefnyddio'r model, a hynny'n rheolaidd, wrth i'r sylfaen dystiolaeth gael ei diweddaru ac i'r cyd-destun newid.

Mae'r pandemig, sydd wedi ysgogi sectorau addysg uwch byd-eang i groesawu dysgu ar-lein, wedi pwysleisio bod angen yr hyblygrwydd hwn a bod manteision yn deillio o fabwysiadu ymagwedd bragmataidd.

Meddai'r Athro Newton: “Mae sylfaen dystiolaeth helaeth ynghylch dysgu ar-lein ac o bell, ond datblygwyd rhan fawr ohoni er mwyn optimeiddio dysgu dan amgylchiadau wedi'u cynllunio lle gallai myfyrwyr ddewis dysgu ar-lein, neu mewn ffordd gyfunol strwythuredig, sy'n wahanol iawn i'r sefyllfa sydd ohoni.

“Gall defnydd pragmataidd o'r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ein helpu i ymdopi â'r newid cyflym hwn a'n helpu i gynllunio ar gyfer rhywbeth a allai fod yn gyffredin yn y dyfodol.”

Ymysg argymhellion y papur, mae'r ymchwilwyr yn galw am y canlynol:

  • Rhaglenni datblygu cyfadrannau a chymwysterau ar gyfer addysgwyr addysg uwch sy'n ymarferol ac sy'n seiliedig ar sgiliau;
  • Sefydlu crynodebau tystiolaeth ymarferol a phragmataidd i'w defnyddio ym maes addysg uwch yn rhyngwladol, y gellir eu haddasu yn ôl y cyd-destun;
  • Mwy o enghreifftiau o gyfuno'r ymchwil sylfaenol bresennol sy'n ateb cwestiynau defnyddiol megis beth sy'n gweithio, i bwy, ym mha amgylchiadau, a pham mae'n gweithio? Faint bydd y broses yn ei chostio, beth gellir ei chymharu ag ef ac a fyddai'n ymarferol ei rhoi ar waith?
  • Cynyddu'r cyllid ar gyfer ymchwil i effeithiolrwydd ymagweddau dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch.

Ychwanegodd yr Athro Newton: “Cyhoeddwyd digonedd o lenyddiaeth academaidd am addysg uwch, a hynny ers degawdau. Mae arnom ddyletswydd i bawb sy'n ymwneud ag addysg i sicrhau y gellir llywio mentrau arloesol a gwelliannau yn y ffordd orau, gan ddarparu ar gyfer barn broffesiynol ac ystyriaeth o gyd-destun.

“Gellir cyflawni'r nod hwn drwy fabwysiadu egwyddorion addysg uwch sy'n bragmataidd ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”

 

 

Rhannu'r stori