Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cronfa Ddŵr Claerwen

Cronfa Ddŵr Claerwen. Llun: Sara Barrento  

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Nature yn cynnig atebion i afonydd rhanedig.

Mae gwaith ymchwil sy'n deillio o AMBER (Rheoli Rhwystrau yn Afonydd Ewrop yn Addasol), prosiect cydweithredol mawr Horizon 2020 sy'n cael ei gydlynu gan Brifysgol Abertawe, wedi gweld bod o leiaf 1.2 filiwn o rwystrau mewnffrwd yn afonydd Ewrop. 

Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn Nature yn dangos bod gan Ewrop rai o'r afonydd mwyaf rhanedig yn y byd, yn ôl pob tebyg. Daeth yr astudiaeth o hyd i filoedd o argaeau mawr, yn ogystal â llu o adeileddau isel megis coredau, cwlferi, rhydau, llifddorau a rampiau sydd wedi cael eu hanwybyddu ac sy'n bennaf gyfrifol am achosi'r rhaniadau.

Gan fodelu rhwystrau ac arsylwi'n uniongyrchol ar faterion ar lawr gwlad, mae'r astudiaeth wedi amcangyfrif bod o leiaf 0.74 rhwystr fesul cilomedr o lif, ac mae wedi llunio'r rhestr gynhwysfawr gyntaf o rwystrau ledled Ewrop, sef  Atlas AMBER o Rwystrau.

“Mae'r afonydd yn Ewrop yn fwy rhanedig nag a ragwelwyd gan neb.” meddai Barbara Belletti, geomorffolegydd afonydd a fu'n arwain yr astudiaeth yn Politecnico di Milano ac sydd bellach yn gweithio yn CNRS, Canolfan Genedlaethol Ffrainc ar gyfer Ymchwil Wyddonol.

Mae llawer o rwystrau nas defnyddir mwyach a thrwy gael gwared arnynt, ceir cyfleoedd digynsail i adfer afonydd,” meddai Carlos de Garcia de Leaniz, cydlynydd AMBER. Caiff ein canlyniadau eu mewnbynnu'n uniongyrchol i Strategaeth Bioamrywiaeth newydd yr UE a byddant yn helpu i ailgysylltu o leiaf 25,000km o afonydd yn Ewrop erbyn 2030.” 

Rhannu'r stori