Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Llun

Mae astudiaeth newydd dan arweiniad ymchwilwyr yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe yn datgelu graddau eithafol y coedwigoedd trofannol, a oedd yn gorchuddio llawer o dir ar ynysoedd Sumatra a Kalimantan yn Indonesia gynt, sydd wedi'u colli a'u rhannu.

Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu bod 10% yn unig o'r coedwigoedd sy'n weddill yn gallu gwrthsefyll tân o hyd. Mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio ei bod hi'n hanfodol amddiffyn y coedwigoedd hyn er mwyn atal tanau trychinebus rhag digwydd. 

Mae datgoedwigo'n gwaethygu'r tanau sy'n effeithio'n rheolaidd ar fawndiroedd yn y rhanbarth hwn. Mae'r rhain yn rhyddhau allyriadau nwy tŷ gwydr sydd o bwys byd-eang ac yn achosi tawch gwenwynig ledled De-ddwyrain Asia.  

Mae ardal o goedwig drofannol a mawndir sy'n fwy na'r Iseldiroedd wedi llosgi yn Indonesia yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ôl Greenpeace.  

Serch hynny, mae'r astudiaeth yn dangos bod coedwigoedd cyffiniol eang nas cyffyrddwyd â hwy nad ydynt yn tueddu i losgi hyd yn oed dan amgylchiadau'r sychder presennol.

Esboniodd Dr Tadas Nikonovas o Brifysgol Abertawe, prif awdur y gwaith ymchwil

“Mae coedwigoedd glaw trofannol nas cyffyrddwyd â hwy yn gallu gwrthsefyll tân yn naturiol oherwydd y ficrohinsawdd laith a chlaear y maent yn ei chynnal, sy'n gweithredu i bob pwrpas fel rhwystr tân. Yn wahanol i'r rhagdybiaeth eang bod sychderau gwaeth yn bygwth y coedwigoedd glaw sy'n weddill, dim ond ar ôl i bobl ymyrryd â hwy y mae tân yn bygwth coedwigoedd trofannol yn Indonesia.”

Fodd bynnag, mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu bod cyfran isel iawn (~10%) o'r holl goedwigoedd trofannol sy'n weddill yn gallu gwrthsefyll tân o hyd. Mae'r coedwigoedd eraill (~90%) wedi cael eu rhannu neu eu diraddio'n ddifrifol, felly nid ydynt yn gallu cynnal microhinsawdd sy'n gwrthsefyll tân.

Yn bwysig, mae coedwigoedd sy'n gallu gwrthsefyll tân bellach yn gorchuddio 3% yn unig o fawndiroedd y rhanbarth, gan adael llawer o garbon hollbwysig i'r hinsawdd sydd mewn perygl o losgi.

Mae'r awduron yn pwysleisio bod rôl coedwigoedd trofannol wrth amddiffyn yn erbyn tanau yn rheswm pwysig arall dros gadw ac adfywio'r darnau cyffiniol prin o goedwigoedd sy'n weddill.

Ychwanegodd Dr Allan Spessa o Brifysgol Abertawe, arweinydd y prosiect:

“Mae diogelu coedwigoedd trofannol yn hollbwysig at ddibenion bioamrywiaeth a storio carbon, yn ogystal ag er mwyn atal tanau trychinebus rhag digwydd yn y dyfodol. Mae hyn yn wir am Indonesia, yn ogystal â choedwigoedd trofannol yn Affrica a De America.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil mewn cyfnodolyn Nature o'r enw Communications Earth and Environment.

Mae'r astudiaeth yn rhan o brosiect Prifysgol Abertawe o'r enw Tuag at System Rhybuddio Brys am Danau yn Indonesia (ToFEWSI).

Rhannu'r stori