Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Traed dyn yn sefyll ar arwydd sy'n dweud 'Keep your distance'

Mae astudiaeth newydd yn cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe i ymchwilio i'r ffordd y mae mesurau diogelwch Covid-19 o bosib yn cael yr effaith anffodus o wneud i bobl deimlo'n llai diogel, gan gynyddu pryderon ac achosi i bobl osgoi sefyllfaoedd a mannau roeddent yn teimlo'n ddiogel ynddynt o'r blaen.

Mae systemau unffordd, cadw pellter cymdeithasol, defnyddio hylif diheintio dwylo, gwisgo gorchuddion wyneb a mesurau diogelwch iechyd cyhoeddus eraill bellach yn rhan o fywyd beunyddiol yn ystod pandemig Covid-19, ac mae academyddion o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe yn credu y gall dilyn y rheolau hyn wneud i bobl deimlo'n fwy pryderus. Mae hyn yn golygu eu bod yn debygol o droi at ymddygiad osgoi – gan aros gartref ac osgoi mynd i fannau fel archfarchnadoedd, sinemâu a chaffis.

Ar ôl cael cyllid gwerth £65,000 gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru (drwy raglen Mynd i'r Afael â Covid-19 Sêr Cymru), bydd ymchwilwyr bellach yn mynd ati i ddatblygu ffordd well o ddeall penderfyniadau pobl sy'n osgoi bygythiadau anghyfarwydd.

Meddai Dr Martyn Quigley, sy'n ddarlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe: “Bydd yr astudiaeth fawr newydd hon yn archwilio'r ffactorau seicolegol a all arwain at ymddygiad osgoi, megis unigrwydd, straen ac iselder. Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio adnabod y bobl hynny sy'n wynebu'r perygl mwyaf o droi at yr ymddygiad osgoi hwn, a all effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd.”

Bydd y bobl sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn cwblhau arbrawf ar-lein, lle byddant yn wynebu ysgogiadau bygythiol a diogel. Mae'r dasg wedi'i haddasu o'r rhai a ddefnyddir yn rheolaidd yn y labordy er mwyn nodi newidiadau o osgoi digwyddiadau bygythiol i osgoi digwyddiadau diogel, a'r mecanweithiau a all achosi'r newid hwn.

Mae bron hanner poblogaeth y DU wedi adrodd eu bod yn teimlo'n hynod bryderus yn ystod y pandemig, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac, yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae llawer o bobl yng Nghymru'n gyndyn o ailgydio mewn gweithgareddau arferol tan y bydd bygythiad coronafeirws yn dod i ben.

Mae Dr Daniel Zuj o Adran Seicoleg Abertawe yn credu bod ymddygiad osgoi eisoes yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl: “Mae rhai elusennau'n adrodd bod pobl yn mynd heb fwyd oherwydd pryder ynghylch Covid-19, gan fod ofn arnynt fynd i siopau. Mae byrddau iechyd Cymru hefyd wedi adrodd eu bod yn gweld cynnydd mawr o ran gorbryder ac yn disgwyl i nifer yr atgyfeiriadau gynyddu'n sylweddol wrth i'r gaeaf gyrraedd.”

Meddai'r Athro Simon Dymond, sy'n athro seicoleg a dadansoddi ymddygiad: “Mae'n hanfodol ein bod yn deall y ffactorau seicolegol sy'n gysylltiedig â risg ymddygiad osgoi problemus yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Bydd yr astudiaeth hon yn archwilio a yw'r negeseuon diogelwch i atgoffa pobl am Covid-19 yn cynyddu'r bygythiad canfyddedig o ddal y feirws. Bydd yn taflu goleuni ar y ffordd y mae pobl yng Nghymru'n ymdrin â bygythiadau sefyllfaoedd a fu gynt yn ddiogel ac, wrth wneud hynny, bydd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth well ynghylch sut i glustnodi help i'r bobl y mae ei angen arnynt fwyaf.”

Rhannu'r stori