Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prosiect SUNRISE ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Times Higher Education

Mae SUNRISE wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Times Higher Education (THE), sydd yn ei 16eg flwyddyn. 

Mae SUNRISE yn brosiect rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n ceisio mynd i'r afael â thlodi tanwydd byd-eang drwy ddatblygu ac arddangos technolegau solar y genhedlaeth nesaf.

Mae rhwydwaith SUNRISE yn uno sawl prifysgol flaenllaw a chydweithredwyr diwydiannol o wledydd deheuol y byd mewn cydweithrediad ymchwil amlddisgyblaethol. Bydd y rhwydwaith rhyngwladol hwn yn datblygu ac yn gweithredu'r dechnoleg angenrheidiol i adeiladu o leiaf bum adeilad i arddangos ynni solar yn India wledig.

O fewn dwy flynedd, mae SUNRISE wedi datblygu rhwydwaith o 15 o bartneriaid academaidd ledled y DU ac yng ngwledydd deheuol y byd, gan gyhoeddi dros 50 o bapurau ymchwil a chreu 40 o gydweithrediadau ymchwil. Byddai'r wobr yn gydnabyddiaeth deilwng o ddwy flynedd o waith caled a byddai'n helpu'r prosiect i barhau i dorri tir newydd o ran ymchwil fyd-eang a ysgogir gan her.

Gwobrau Times Higher Education yw'r dathliad blynyddol mwyaf o addysg uwch yn y DU, gan gydnabod rhagoriaeth mewn amrywiaeth eang o weithgareddau prifysgolion. Mae categori ‘Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn’ yn gwobrwyo prosiectau eithriadol neu fentrau ar y cyd rhwng sefydliad yn y DU ac un partner rhyngwladol neu fwy.

Oherwydd y pandemig coronafeirws, cyhoeddir enillwyr gwobrau eleni yn ystod digwyddiad rhithwir am ddim ar 26 Tachwedd.

Meddai Dr Adrian Walters, Cyfarwyddwr Rhaglen SUNRISE:

“Mae cyrraedd rhestr fer Gwobrau Times Higher Education yn destun cyffro i'r prosiect ac mae'n cydnabod cryfder y cydweithrediadau rydym wedi'u meithrin o fewn dwy flynedd.

“Er bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, rydym wedi llwyddo i gynnal y cydweithrediad hwn rhwng ein partneriaid dros amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mae'r rhwydwaith byd-eang hwn yn hanfodol er mwyn cyflwyno ynni fforddiadwy, dibynadwy a chynaliadwy i barthau mwyaf anghysbell y byd.”

Rhannu'r stori