Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gofalu am blant

Roedd cyfraddau problemau iechyd meddwl pobl sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anabledd deallusol yn eu teulu hyd at 10 o weithiau'n uwch yn ystod y cyfyngiadau symud nag yn achos rhieni heb y cyfrifoldebau hynny, yn ôl astudiaeth newydd.

Roeddent bum gwaith yn fwy tebygol o adrodd am orbryder difrifol, a rhwng pedwar a phum gwaith yn fwy tebygol o adrodd am iselder sylweddol, o'u cymharu â phobl nad ydynt yn gyfrifol am ofalu am blant ag anabledd deallusol.

Mae'r heriau sy'n wynebu pobl sy'n gofalu'n anffurfiol – mamau, gan amlaf – am blant ac oedolion ag anabledd deallusol wedi cael eu diystyru i raddau helaeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, cynhaliodd tîm ymchwil astudiaeth ar-lein gyda'r nod o ddogfennu eu hiechyd meddwl. Dan arweiniad yr Athro Paul Willner o Brifysgol Abertawe, cyfrannodd ymchwilwyr o Abertawe a chydweithwyr o brifysgolion Warwick, Caint a Birmingham, yn ogystal â The Challenging Behaviour Foundation, at y prosiect.

Dadansoddodd y tîm 244 o arolygon ar-lein, a gwblhawyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud caeth gan bobl sy'n gofalu am oedolion ag anabledd deallusol, plant ag anabledd deallusol, a grŵp cymhariaeth llawn pobl sy'n gofalu am blant heb anabledd deallusol.

Roedd mwy na 90 y cant o'r gofalwyr a gymerodd ran yn fenywod. Roedd 11 o'r aelwydydd wedi cael profiad uniongyrchol o COVID-19.

Roedd y casgliadau allweddol fel a ganlyn:

  • Gorbryder cymedrol neu ddifrifol – adroddodd 43% o'r bobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol am hyn, o'u cymharu ag 8% o rieni plant heb anabledd deallusol.
  • Adroddodd 45% o'r bobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol am iselder cymedrol neu ddifrifol, o'u cymharu ag 11% o rieni plant heb y fath anabledd.
  • Gwelwyd bod iselder sylweddol yn effeithio ar 31% o'r bobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol, ond dim ond 3% o rieni plant heb anabledd deallusol.
  • Cymorth cymdeithasol – o'u cymharu â rheini plant heb anabledd deallusol, roedd pobl sy'n gofalu am blant ag anabledd deallusol yn cael llawer llai o gymorth o ffynonellau eraill, yn enwedig teulu a ffrindiau – er bod eu hanghenion yn fwy.
  • Dim seibiant: pobl sy'n gofalu am oedolion ag anabledd deallusol. Gan fod gwasanaethau dydd a gofal seibiant i oedolion ar gau, roedd aelodau'r grŵp yn teimlo eu bod yn cael llawer llai o gymorth na phobl sy'n gofalu am blant, a allai anfon eu plant i'r ysgol pe baent am wneud hynny.

Meddai'r Athro Paul Willner o Brifysgol Abertawe, pennaeth y prosiect:

“Mae'r data yn awgrymu ei bod yn debygol bod y pandemig wedi effeithio'n niweidiol ar iechyd meddwl pobl sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anabledd deallusol. Mae'r effaith hon ar ben unrhyw broblemau iechyd meddwl a oedd eisoes yn bodoli. Effeithir arnynt yn fwy hefyd na rhieni pobl heb anableddau, er nad ydynt yn cael cymorth cystal.

Mae ein canfyddiadau'n un enghraifft o'r ffordd y mae'r pandemig wedi ychwanegu at anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli.”

Mae'r awduron yn cyflwyno argymhellion ynghylch cefnogi gofalwyr yn well, gan gynnwys:

• Cymorth cyson hirdymor gan weithiwr allweddol penodol
• Hyfforddi mwy o nyrsys ynghylch anableddau dysgu, a chynnwys iechyd meddwl yn eu cylch gwaith
• Mwy o ddarpariaeth seibiant, a barheir yn ystod unrhyw gyfyngiadau symud eraill
• Galluogi gwasanaethau i gynnig cymorth gwell i ofalwyr o bell dros y ffôn neu ar-lein
• Rhoi cyfle i ofalwyr gael gafael ar gymorth iechyd meddwl arbenigol
• Grwpiau cefnogi cymheiriaid

Ychwanegodd yr Athro Willner:

“Dylem gydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr anffurfiol yn ei chwarae a chymryd camau i sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol a rhagweithiol. Bydd costau sylweddol i'r gofalwyr eu hunain ac i'r gymdeithas yn fwy cyffredinol os bydd salwch meddwl yn eu hatal rhag gallu parhau i ofalu am eu hanwyliaid.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn cyfnodolyn Journal of Applied Research in Intellectual Disabilities.

Rhannu'r stori