Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gwobr Allgymorth ac Ymgysylltu'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol i ymchwilydd o Brifysgol Abertawe

Mae'r ymchwilydd ôl-ddoethurol Dr Claire Price wedi cael ei chydnabod am ei gwaith i wneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch i'r gymuned yn ei thref leol.

Mae Gwobrau Allgymorth ac Ymgysylltu'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol yn dathlu ymchwilwyr sy'n cyflwyno eu gwaith gwyddonol drwy ddefnyddio dulliau newydd sy'n ymgysylltu'n effeithiol â'u cynulleidfaoedd targed. 

Eleni, enillydd y Wobr Allgymorth ac Ymgysylltu am Ymchwilydd Sefydledig yw Dr Claire Price, sy'n ymchwilydd yng Nghanolfan Bioamrywiaeth Sytocrom P450 Prifysgol Abertawe.  

Gwnaeth Dr Price guradu a chyflwyno'r ŵyl blas ar wyddoniaeth gyntaf ym Merthyr Tudful yn 2019 – yr ŵyl wyddoniaeth gyntaf o'r fath yn y dref, ac un o'r enghreifftiau cyntaf a gynhaliwyd y tu allan i ddinas â phrifysgol. 

Yn ogystal, gwnaeth Dr Price weithio gyda'r ysgol uwchradd leol a hyfforddi disgyblion i gyflwyno gweithgareddau gwyddoniaeth i blant ifancach, gyda chymorth ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe. 

O ganlyniad i hyn, mae'r ysgol uwchradd hefyd wedi lansio ei chlwb gwyddoniaeth cyntaf er mwyn helpu disgyblion i gymryd rhan mewn mwy o waith allgymorth ac ymgysylltu. 

Yn ogystal â bod yn gyfathrebwr gwyddoniaeth ymroddedig, mae Dr Price yn llysgennad STEM ac yn gynghorydd gwyddoniaeth Ysgol Gymunedol Abercanaid ac mae wedi cymryd rhan o'r blaen mewn digwyddiadau Gwyddoniaeth Bocs Sebon, digwyddiadau Peint o Wyddoniaeth ac arddangosfeydd gwyddoniaeth mwy arbenigol. 

Gan drafod y wobr, meddai Dr Price: “Mae'r ffaith fy mod wedi ennill y wobr hon wedi fy syfrdanu. Dechreuais gymryd rhan mewn gwaith allgymorth ac ymgysylltu oherwydd fy mod yn dwlu ar rannu fy mrwdfrydedd dros wyddoniaeth â phobl eraill. 

“Nid oes unrhyw beth tebyg i weld y rhyfeddod a'r cyffro yn llygaid rhywun sy'n gweld rhywbeth am y tro cyntaf. Rwyf mor ffodus fy mod wedi cwrdd â chynifer o bobl hyfryd a dysgu cymaint ganddynt. 

“Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio parhau i ddatblygu fy ngweithgareddau allgymorth a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach drwy ymgysylltu â hwy.” 

Meddai Steve Cross, cadeirydd panel barnu'r wobr: “Roedd yn wych i ni weld grŵp mor eang o ymchwilwyr yn cymryd rhan eleni, ac i ni weld bod gwaith allgymorth ac ymgysylltu wedi cael ei wreiddio i'r fath raddau yn y ffyrdd y mae biolegwyr yn gweithio. 

“Roeddem wrth ein boddau bod Claire wedi cyflwyno gwyliau gwyddoniaeth newydd a ffyrdd newydd i fiolegwyr ymgysylltu â phobl y tu allan i'r mannau arferol. 

“Roedd ei gallu i arwain wedi creu argraff gref iawn arnom hefyd; yn ogystal â gweithio gyda llawer o fiolegwyr eraill, gwnaeth hi lwyddo i gydweithredu â gwleidyddion lleol a gweinidogion Cymru wrth roi ei digwyddiadau at ei gilydd.”

 

Rhannu'r stori