Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Animeiddiad newydd yn helpu cleifion lymffoedema i adnabod symptomau

Mae fideo animeiddiedig newydd wedi'i ddatblygu gan Brifysgol Abertawe i godi ymwybyddiaeth o lymffoedema ac i helpu cleifion i ddeall mwy am sut caiff eu cyflwr ei drin.

Amcangyfrifir bod dros 200,000 o ddynion, menywod a phlant yn byw gyda lymffoedema, a elwir hefyd yn Edema Cronig, yn y DU. Mae Lymffoedema yn effeithio ar oddeutu 2 mewn 10 o bobl gyda chanser y fron, a 5 mewn 10 o bobl gyda chanser fylfol.

Y system lymffatig yw system waredu'r corff, sy'n cludo lymff o amgylch y corff, yn ymladd haint, ac yn gwaredu ar gynhyrchion gwastraff a gynhyrchir gan gelloedd. Os yw'r system lymffatig yn stopio gweithio, gall hyn achosi chwyddo, a all ddigwydd ym mhob rhan o'r corff, ond yn fwyaf cyffredin yn y coesau a'r breichiau. Gall y chwydd hwn ddod mor ddifrifol fel ei fod yn achosi i hylif ollwng trwy'r croen. Gall byw gyda chyflwr tymor hir sy'n effeithio ar eich ymddangosiad arwain at gyfnodau o unigedd ac anweithgarwch corfforol. Gall hyn waethygu'r broblem ac achosi trallod ac arwain at gyfnodau o iselder. Caiff hyn yn ei dro effaith negyddol ar ansawdd bywyd y dioddefwr lymffoedema sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Gwyliwch y fideo

Mae Rhwydwaith Lymffoedema Cymru, sydd wedi bod yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a'r Academi Iechyd a Llesiant ers 2014, wedi dyfeisio llwybr i helpu pobl sydd wedi cael diagnosis o lymffoedema i reoli eu cyflwr a darparu'r offer i barhau â bywyd beunyddiol.

Mae’r llwybr ‘Coes Wlyb’ yn helpu cleifion i ddeall sut y gallant ofalu am eu cyflwr, trwy ddarparu arweiniad ar ddeiet, ymarfer corff, safleoedd cysgu a chywasgu (dillad a bandio) ynghyd â chyngor ar reoli llid yr isgroen a heintiau croen ffwngaidd.

Dywedodd Ioan Humphreys, uwch swyddog ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe: “Effeithia cyflwr lymffoedema ar o gannoedd o filoedd o bobl nid yn unig yn y DU, ond ar draws y byd. Trwy gynhyrchu fideo animeiddiedig cyflym, addysgiadol a chyfeillgar ar beth yw lymffoedema a sut y gall llwybr y Goes Wlyb helpu un i fyw bywyd normal, os bydd yn dilyn cyngor gan eu harbenigwr, gall helpu i godi ymwybyddiaeth a gwella bywydau'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr.”

Mae Humphreys wedi gweithio ym maes Economeg Iechyd ac ymchwil gwasanaethau iechyd ers dros 14 mlynedd. Mae wedi gweithio gyda Rhwydwaith Lymffoedema Cymru ar ymchwil gwerthusiadau economaidd ers 2014, a thrwy ei berthynas barhaus â'r tîm, mae wedi datblygu angerdd am gynhyrchu tystiolaeth gadarn yn Seiliedig ar Werth yn seiliedig ar eu gwaith diflino ym maes lymffoedema.

Dywedodd Dr Melanie Thomas, arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer lymffoedema yng Nghymru: “Mae’n hanfodol bod mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o lymffoedema gan nad yw’n gyflwr prin. Nid oes ond rhaid i chi edrych o gwmpas mewn archfarchnad i weld pobl â choesau chwyddedig mawr yn cael anhawster cerdded ac sy’n gwisgo esgidiau anaddas oherwydd yr oedema. Gall rheoli lymffoedema wneud gwahaniaeth go iawn wrth wella siâp a maint coesau yn ogystal ag iacháu clwyfau. Mae tystiolaeth gan lwybr Coes Wlyb Odema Cronig ac mae ganddo lwybr gor-syml i ddechrau'r driniaeth. Dengys yr ymchwil hefyd bod llwybr y Goes Wlyb yn arwain at ffyrdd mwy cost-effeithiol o reoli lymffoedema. Ni ddylai pobl â lymffoedema fod yn dioddef bellach.”

Gweithia Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe gydag ymchwilwyr i ddatblygu’r llwybr hwn ymhellach - a gofynna am adborth gan gleifion sydd wedi cael diagnosis o lymffoedema. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y llwybr hwn pan ymwelwch â'ch arbenigwr lymffoedema yn yr Academi Iechyd a Llesiant.

 

Rhannu'r stori