Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Academi Iechyd a Llesiant Abertawe.

Bydd Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe'n dechrau darparu gwasanaethau osteopatheg i'r cyhoedd eto o ddydd Llun 7 Medi.

Mae'r Academi Iechyd a Llesiant ar Gampws Parc Singleton y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau fforddiadwy a hyblyg i gefnogi cymuned de-orllewin Cymru ac ategu'r gwasanaethau a ddarperir gan y GIG.

Gall y tîm o fyfyrwyr a staff osteopatheg helpu i ymdrin ag amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys poen yn y cefn, anaf straen ailadroddus, arthritis, anafiadau chwaraeon, poen yn y gwddf a phoen yn ystod beichiogrwydd.

Cyflwynwyd mesurau iechyd a diogelwch helaeth yn yr Academi Iechyd a Llesiant er mwyn sicrhau y gall pob claf fanteisio'n ddiogel ar y gwasanaethau. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Proses sgrinio dros y ffôn i gleifion newydd
  • Glanhau pob ardal yn yr Academi'n drwyadl ac yn rheolaidd
  • Uchafswm o ddau unigolyn yn yr ystafell aros ar unrhyw adeg
  • Gweithdrefnau i sicrhau bod pobl yn cadw pellter diogel a lleihau cyswllt corfforol
  • Taliadau digyffwrdd a rhagdaliadau
  • Staff a myfyrwyr yr Academi'n gwisgo cyfarpar diogelu personol
  • Mynnu bod cleifion yn dod â'u masg wyneb a'u lluniaeth eu hunain
  • Cyflwyno systemau unffordd a chyfleusterau diheintio dwylo

Bydd gwasanaethau osteopatheg yr Academi ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Cyhoeddir manylion ailagor gwasanaethau eraill yn y clinig yn fuan.

Meddai Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Llesiant, Julia Pridmore: “Ar ran y tîm osteopatheg a phawb yn yr Academi Iechyd a Llesiant, mae'n bleser gennyf groesawu ein myfyrwyr osteopatheg a'n cleifion yn ôl.

“Mae'n destun cyffro i allu ailddechrau ein gwasanaethau osteopatheg o'r radd flaenaf a arweinir gan fyfyrwyr ac rydym yn falch y gallwn barhau i chwarae ein rhan wrth gefnogi lles ein cymuned yn yr Academi Iechyd a Llesiant.

“Yn bersonol, rwy'n ddiolchgar iawn i'n timau gwasanaeth academaidd, clinigol a phroffesiynol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i sicrhau ein bod yn barod iawn i gyflwyno gwasanaeth proffesiynol o safon mewn amgylchedd diogel o ran Covid-19.

Yn ddiweddar, mae aelodau staff yr adran osteopatheg wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth mewn Addysgu fel Tîm gan y Brifysgol ar ôl i’w gwaith addysgu ardderchog gael ei enwebu gan fyfyrwyr. 

I drefnu apwyntiad: e-bostiwch osteopathclinic@abertawe.ac.uk

Rhannu'r stori