Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Astudiaeth yn canolbwyntio ar ymdrin â galwadau 999 gan gleifion Covid-19

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe sy'n ystyried y ffordd orau i wasanaethau ambiwlans ymdrin â galwadau Covid-19 tybiedig newydd ennill cymorth ariannol mawr. 

Rhywbeth newydd ac anrhagweledig yw Covid-19, i gymunedau ac unigolion. Bu cynnydd mawr yn nifer y galwadau brys am ambiwlans a oedd yn gysylltiedig â Covid-19 ar adegau yn ystod y pandemig. Mewn rhai ardaloedd, treblwyd nifer y galwadau.

Pe bai pob claf wedi mynd i'r ysbyty, byddai adrannau argyfwng a gwasanaethau cleifion mewnol wedi cael eu gorlwytho'n llwyr. Ond pe bai'r cleifion anghywir yn cael eu gadael gartref, gallai'r canlyniadau fod yn drychinebus.

Nawr, yn yr astudiaeth gydweithredol hon dros 12 mis, bydd tîm o Abertawe mewn partneriaeth â gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru, dwyrain Lloegr a dwyrain canolbarth Lloegr yn dadansoddi data a gesglir o wasanaethau ambiwlans ledled y DU. Bydd y tîm yn gweld sut ymatebir i alwadau, ochr yn ochr â chanlyniadau i gleifion, gan gynnwys nifer y marwolaethau; nifer y bobl sy'n cael eu derbyn gan ysbytai ac unedau therapi dwys; nifer y bobl sy'n mynd i adrannau argyfwng; a nifer y bobl sy'n cael diagnosis o Covid-19.

Yr Athro Alan Watkins, sy'n Athro Ymchwil e-dreialon, a'i gydweithiwr Helen Snooks o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe sy'n arwain yr astudiaeth, sef What TRIage model is safest and most effective for the Management of 999 callers with suspected Covid-19 neu TRIM.

Yr Athro Snooks yw arweinydd Abertawe Canolfan PRIME Cymru, sy'n ymchwilio i ofal sylfaenol a gofal brys er mwyn helpu i wella iechyd a lles yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae'n credu y bydd yr astudiaeth yn cryfhau'r cysylltiadau ymchwil presennol rhwng PRIME a gwasanaethau ambiwlans y DU.

Meddai: “Pan geir galwad 999, pe na bai'r cleifion cywir yn cael ambiwlans neu pe baent yn cael eu gadael gartref, gallent gael niwed neu farw hyd yn oed. Ond ni ellir mynd â phob claf i'r ysbyty neu ni fyddai'r gwasanaethau'n gallu ymdopi.

“Rydym yn gwybod bod gwasanaethau ambiwlans gwahanol yn defnyddio modelau gwahanol i frysbennu galwyr, ond prin yw'r wybodaeth am ba fodel brysbennu yw'r un mwyaf diogel ac effeithiol yn ystod pandemig. Dyma'r cwestiwn rydym am ei ateb.”

Esboniodd yr Athro Watkins y bydd yr astudiaeth yn ystyried y modelau brysbennu sydd wedi'u defnyddio mewn canolfannau galwadau ac yn y maes yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn ystod pandemig 2020.

Meddai: “Yn ogystal â chael gafael ar y canlyniadau i gleifion, byddwn hefyd yn cyfweld â staff y GIG fel y gallwn ddeall eu profiadau a'u pryderon yn well.

“Rydym yn bwriadu cyflwyno ein casgliadau cyn gynted â phosib er mwyn helpu i roi'r model gorau posib ar waith ar gyfer brysbennu a thrin galwyr 999 â symptomau COVID-19 tybiedig.”

Dyfarnwyd cyllid gwerth mwy na £350,000 i'r astudiaeth drwy alwad dreigl UKRI-DHSC i ymateb yn gyflym i COVID-19, mentr sy'n cefnogi ymchwil amserol a chanddi effaith ar iechyd y cyhoedd.

Rhannu'r stori