Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

£1m ar gyfer menter newydd gan Brifysgol Abertawe i ddatblygu systemau storio ynni uwch

Bydd tîm ymchwil o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe yn ffurfio partneriaeth newydd â'r darparwr atebion ynni byd-eang mawr ENSERV POWER.

Bydd y fenter hon yn ceisio datblygu a masnacheiddio systemau storio ynni uwch a chynaliadwy drwy'r Ganolfan Ragoriaeth ryngddisgyblaethol newydd ei sefydlu: CAPTURE (Dulliau Cylchol o Ddefnyddio a Chadw Ynni), gyda chymorth y Sefydliad Arloesol ym maes Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT).

Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar fabwysiadu ymagwedd gylchol at weithgynhyrchu a rheoli deunyddiau storio ynni. Gan uno arbenigedd Colegau Peirianneg a Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, bydd y ganolfan yn cynnig ymagwedd amlochrog, unigryw at ymchwil arloesol i ffyrdd cynaliadwy a chyraeddadwy o weithgynhyrchu dyfeisiau storio ynni.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol CAPTURE, yr Athro Serena Margadonna:

“Ein pwyslais yw dyfeisio, dylunio a modelu o'r dechrau dechnolegau storio ynni mewn fframwaith economi gylchol, gan sicrhau y defnyddir adnoddau yn y modd gorau posib ac y gellir ailddefnyddio ac ailgylchu eu cydrannau. Mae rhwydwaith CAPTURE o gyfleusterau, cyfarpar ac ymchwil gydweithredol yn galluogi cwmnïau i ddatblygu technolegau newydd a chynyddu eu cynhyrchedd, eu cynaliadwyedd a'u cydnerthedd.”

Ychwanega'r Athro Margadonna:

“Mae'n destun cyffro ein bod yn cydweithio ag ENSERV POWER – datblygwr technoleg batris byd-eang. Dros y blynyddoedd, mae'r cwmni wedi tyfu i ddatblygu gweithfeydd solar a systemau storio ynni yn Asia ac Ynysoedd y De ar raddfa fawr wrth i barciau ffotofoltäig a all gynhyrchu mwy na 258 MW gael eu gosod yng Ngwlad Thai yn unig. Mae buddsoddiad gwerth £1m y cwmni'n mynd â ni gam yn agosach at gynnig ymagwedd arloesol at systemau storio ynni'r dyfodol.”

Meddai Mr Tanachat Pochana, Sylfaenydd a Chadeirydd ENSERV Holding:

“Bydd y cydweithrediad a'r cymorth y gall tîm CAPTURE eu darparu i ENSERV POWER o ran ymchwil a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn bendant yn ysgogi'r broses o fasnacheiddio ein systemau storio ynni arloesol. Mae'r gallu i gael gafael ar amrywiaeth eang o arbenigedd ac isadeiledd sy'n ategu ein gweithgareddau ymchwilio a datblygu byd-eang yn adnodd amhrisiadwy. Yn wir, mae'r amgylchedd cydweithredol a ddarperir gan CAPTURE a Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol wedi cyfrannu at y penderfyniad i sefydlu ein gweithrediadau yn y DU yn Abertawe.

Mae ein tîm byd-eang yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â CAPTURE i gyflwyno atebion storio ynni cynaliadwy'r genhedlaeth nesaf.”

Mae CAPTURE ac ENSERV POWER wedi bod yn gweithio'n agos i sefydlu rhaglen ymchwilio a datblygu ar y cyd, sef ReCharge+, gyda ffrydiau gwaith sy'n canolbwyntio ar weithgynhyrchu cynwysorau uwch, batris ïon sodiwm, electrolytau cyflwr solid a batris Li-S.

Dyma esboniad Cyfarwyddwr Technegol CAPTURE, yr Athro Davide Deganello:

“Nod y prosiect yw datblygu cadwyn gwerth gyflawn ar gyfer gweithgynhyrchu batris a chynwysorau uwch, sy'n bodloni gofynion yr economi gylchol. Gwneir hyn drwy ein harbenigedd helaeth o ran gweithgynhyrchu, deunyddiau a dylunio cynaliadwy ochr yn ochr ag arbenigedd ENSERV POWER o ran ynni glân, cynhyrchu ynni a storio ynni. Mae ein cydweithrediad wedi cael ei atgyfnerthu gan y ffaith bod Arweinydd Ymchwilio a Datblygu'r cwmni ar gyfer y DU a Phartneriaid Tramor, Dr Arturas Adomkevicius, wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae sefydliadau rhyngwladol ychwanegol yn cymryd rhan yn y prosiect hefyd: Prifysgol Monash (Awstralia) a Choleg Cenedlaethol Technoleg Tsuruoka (Japan). Felly, bydd y bartneriaeth hon yn ategu ymdrech Abertawe i feithrin cydweithrediadau rhyngwladol cryf â Chymru.”


Meddai Dr Arturas Adomkevicius, Arweinydd Ymchwilio a Datblygu ENSERV POWER ar gyfer y DU a Phartneriaid Tramor:

“Mae'r cydweithrediad hwn yn gam allweddol a allai roi hwb cyflym i'r broses o weithgynhyrchu batris ïon sodiwm, batris lithiwm sylffwr a chynwysorau uwch yn gynaliadwy. Bydd hefyd yn sicrhau y bydd technolegau newydd a ddatblygir gan ENSERV POWER mewn partneriaeth â CAPTURE yn atgyfnerthu sefyllfa Cymru a'r DU fel un o'r prif ganolbwyntiau ymchwil a datblygu ar gyfer gweithgynhyrchu batris yn Ewrop. Credaf, yn fwy nag erioed, fod partneriaethau fel yr un hon yn hanfodol er mwyn sicrhau proses weithgynhyrchu gynaliadwy ar gyfer marchnad y mae galw mawr amdani.”

Mae CAPTURE yn rhan o Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol (FMRI) – canolfan ymchwil sy'n ceisio trawsnewid maes gweithgynhyrchu drwy gyfuniad unigryw o arbenigedd a chyfleusterau gweithgynhyrchu digidol, deunyddiau uwch a dylunio dyfeisiau.

Ariennir gweithrediad IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori