Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mewnfridio'n lleihau cydweithrediad rhwng mongwsiaid rhesog yn ôl astudiaeth

Gall mewnfridio leihau cydweithrediad rhwng mongwsiaid rhesog yn ôl astudiaeth ddiweddar gan ymchwilwyr. 

Astudiodd tîm o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bielefeld a Phrifysgol Caerwysg fewnfridio a gofal cydweithredol rhwng mongwsiaid rhesog – mamal o Affrica sy'n byw mewn llwythau â strwythur cymdeithasol cymhleth.

Yn ystod y 1930au, cynigiwyd y byddai'n rhaid i famaliaid fewnfridio'n helaeth fel y byddai pob aelod o'r llwyth yn perthyn i'w gilydd yn enynnol er mwyn iddynt ddatblygu cymdeithasau cydweithredol cymhleth tebyg i'r rhai a geir yn achos gwenyn a gwenyn meirch.

Byddai hyn yn golygu pan fyddent yn helpu aelodau eraill o'u llwythau i atgenhedlu, y byddent yn trosglwyddo copïau o'u genynnau eu hunain. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y fath gymdeithas yn brin ym myd natur a bod y rhan fwyaf o famaliaid cydweithredol yn mynd ati i osgoi mewnfridio.

Yn achos mongwsiaid rhesog sy'n byw yn y gwyllt yn Uganda, mae bron un o bob 10 o genawon yn deillio o fridio rhwng brawd a chwaer neu dad a merch. Yn ôl y tîm o ymchwilwyr, mae'n bosib bod y rhywogaeth hon yn gallu goddef mewnfridio mor helaeth am fod yr oedolion yn y grŵp yn rhoi cryn dipyn o ofal unigol i'r cenawon, sy'n lleihau effeithiau iselder o ganlyniad i fewnfridio.

Mae cenawon wedi mewnfridio sy'n cael cryn dipyn o ofal yn ystod tri mis cyntaf eu bywyd yr un mor debygol o oroesi ag y mae cenawon eraill, ond mae cenawon wedi mewnfridio fel arfer yn marw'n ifanc os na chânt fawr o ofal.

Fodd bynnag, mewn tro diddorol, mae iselder o ganlyniad i fewnfridio yn effeithio arnynt yn y pen draw. Bydd y cenawon wedi mewnfridio sy'n goroesi am eu bod yn cael cryn dipyn o ofal yn ofalwyr gwael pan fyddant yn hŷn. Mae hyn yn golygu y bydd y genhedlaeth nesaf yn cael llai o ofal pan fydd oedolion y grŵp wedi mewnfridio.

Gall hyn esbonio pam mae mongwsiaid rhesog yn aml yn mynd ati i beidio â mewnfridio, gydag unigolion yn peryglu eu bywyd o ran ymladd â grwpiau croes er mwyn mewnfridio â chymheiriaid nad ydynt yn perthyn iddynt.

Meddai Dr Hazel Nichols, uwch-ddarlithydd yn y biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe ac un o gyd-awduron yr astudiaeth: “Mae bywydau cymdeithasol cymhleth mongwsiaid rhesog yn destun rhyfeddod parhaus i mi. Maent wedi dangos i ni y gall mewnfridio amharu ar gydweithrediad yn hytrach na'i hybu.” 

Rhannu'r stori