Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr Abertawe sydd am hedfan yn uchel ar ôl graddio

Mae dau fyfyriwr yn edrych ymlaen at ragor o lwyddiant i'w busnes hedfanaeth byd-eang ar ôl iddynt raddio o Brifysgol Abertawe. 

Mae Joe Charman a'i bartner busnes, Jack Bengeyfield, wedi cwblhau eu hastudiaethau yn yr Ysgol Reolaeth a byddant nawr yn cymryd camau tuag at dyfu Pilot Plus, sy'n gwmni efelychu hediadau.

Yn 2014, pan oedd ganddo £200 yn unig i'w enw, sefydlodd Joe, a oedd yn 16 oed, Pilot Plus, sy'n efelychu meysydd awyr go iawn mewn fformat 3D digidol ar gyfer hyfforddi peilotiaid.

Chwe mlynedd yn ddiweddarach, mae gan Pilot Plus fwy na 4,000 o gwsmeriaid ledled y byd o Los Angeles i Sydney wrth i'w feddalwedd gael ei werthu i ysgolion hedfan, peilotiaid masnachol a phobl sy'n dwlu ar hedfanaeth.

“Deilliodd y busnes o'm brwdfrydedd dros hedfanaeth a'm hawydd i greu rhywbeth y gallai pobl eraill eu mwynhau,” meddai Joe, sydd bellach yn 21 oed ac sy'n hanu o Fryste. “Mae efelychydd hediadau'n adnodd gwych a ddefnyddir er mwyn hyfforddi peilotiaid proffesiynol, yn ogystal â difyrru defnyddwyr a darpar beilotiaid. 

“Mae'n syndod o beth bod llawer o bobl yn gysylltiedig â datblygu a lansio ein cynhyrchion erbyn hyn. Mae angen sawl datblygwr mewnol, yn ogystal â llond llaw o bobl allanol i gynnal profion, ar bob cynnyrch, a gaiff ei drin fel prosiect. Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni partner i ddosbarthu cynhyrchion drwy ei gyfrwng byd-eang yn ogystal â phobl sy'n dylanwadu ar y diwydiant.”

Ymunodd Jack, 22, â Pilot Plus gwpl o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei lansio ac mae wedi chwarae rhan annatod yn y broses o ddatblygu cynhyrchion y busnes, gan gynnwys creu Maes Awyr Gatwick.

Pan fo modd, bydd y tîm yn ymweld â phob maes awyr unigol er mwyn tynnu cynifer o luniau cyfeirio â phosib. Yna caiff y lluniau hynny eu coladu â rhagor o ymchwil, megis cynlluniau adeiladau a data amgylcheddol, er mwyn creu'r cynnyrch rhithwir mwyaf manwl gywir.

“Mae'r busnes wedi gwneud elw ers y dechrau,” meddai Joe. “Mae'r rhan fwyaf o gostau prosiectau yn deillio o amser datblygu a defnyddio adnoddau meddalwedd.

“Mae refeniw'r cynhyrchion yn fwy na'r holl gostau datblygu ac amser, o ganlyniad i'r brand a'r rhwydwaith busnes cryf sydd gennym.”

Mae Joe a Jack wedi ennill anrhydeddau dosbarth cyntaf ac maent yn ddiolchgar am fewnbwn staff o Brifysgol Abertawe i gefnogi eu busnes.

Ychwanegodd Joe: “Mae Tîm Entrepreneuriaeth y Brifysgol wedi ein helpu ar sawl achlysur, wrth i aelodau o staff yn ogystal â Santander roi cymorth busnes a chymorth ariannol i ni.

“Er bod llawer o gynlluniau ar gael ar gyfer entrepreneuriaeth, rydym bob amser wedi datblygu'r busnes o'r gwaelod, gan greu cynhyrchion ac ailfuddsoddi’r elw at ddibenion twf, heb ddibynnu ar fuddsoddwyr allanol.”
Mae'r entrepreneuriaid bellach yn edrych tua'r dyfodol.

“Rydym yn gobeithio cynnal y busnes yn amser llawn a chael swyddfa bwrpasol,” meddai Jack. “Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i gynyddu ein hamrywiaeth o gynhyrchion a gynigir i ddefnyddwyr.

“Rydym hefyd am ddarparu gwasanaethau masnachol ar gyfer ysgolion hedfan a diwydiannau eraill, gan gynnig amgylcheddau 3D cywir i gefnogi amrywiaeth ehangach o ddefnyddiau busnes.

“Ar ben hynny, rydym yn bwriadu cadw mewn cysylltiad agos â Phrifysgol Abertawe a chynnig cyfle i fyfyrwyr yn y dyfodol o bosib.”

Yn y cyfamser, mae gan y ddau ohonynt gyngor call i unrhyw fyfyrwyr sydd am ddilyn trywydd tebyg drwy ddatblygu eu syniadau eu hunain.

“Gall y broses o gychwyn busnes fod yn heriol iawn,” meddai Joe. “Mae'n bwysig cadw eich nod mewn golwg a gwneud penderfyniadau call. Mae hefyd yn bwysig canolbwyntio ar y cwsmeriaid a chynnig profiad cyfeillgar a didrafferth. Dechreuwch o'r dechrau a daliwch ati – nid oes angen llawer o gyllid arnoch bob amser.”

Ychwanegodd Jack: “Yn gyffredinol, y syniadau symlaf yw'r rhai sy'n creu'r busnesau mwyaf llwyddiannus – gall defnyddio'r sgiliau sydd gennych eisoes a'u rhoi ar waith fod yn fan cychwyn gwych i fyfyriwr.”

Rhannu'r stori